
2009 Rhif 3161 (Cy.275)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2009
Gwnaed 2 Rhagfyr 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 4 Rhagfyr 2009
Yn dod i rym 1 Ionawr 2010
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 35(4) a (5), 36(4) a (5) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2009 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006
2 

(1) Mae Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 10(8), yn lle'r gair “Rhaid”, rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (8A), rhaid”.
(3) Ar ôl paragraff (8) o reoliad 10 mewnosoder—“
(8A) Caiff y corff llywodraethu benderfynu peidio â hysbysebu'n unol â pharagraff (8) y swydd wag i bennaeth neu ddirprwy bennaeth pan fo'r swydd wag honno mewn ysgol a enwir mewn cynigion a gyhoeddir o dan adrannau 29 i 32 o Ddeddf 1998 fel un y caiff disgyblion sydd mewn ysgol sydd i'w therfynu ei mynychu (“yr ysgol newydd”) ac—
(a) bod person a gyflogir yn yr ysgol newydd neu yn yr ysgol sydd i'w therfynu wedi mynegi ei ddymuniad mewn ysgrifen i'r corff llywodraethu i wneud cais am y swydd wag i bennaeth neu ddirprwy bennaeth; neu
(b) nad oes unrhyw berson o'r math a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (a), ond bod person yn cael ei gyflogi mewn ysgol yn rhywle arall yn ardal yr awdurdod sydd naill ai i'w therfynu'n unol â chynigion a gyhoeddir o dan adrannau 29 i 32 o Ddeddf 1998, neu sydd wedi ei henwi mewn cynigion o'r fath fel un y caiff disgyblion yn yr ysgol sydd i'w therfynu ei mynychu a bod y person hwnnw wedi mynegi ei ddymuniad mewn ysgrifen i'r corff llywodraethu i wneud cais am y swydd wag i bennaeth neu ddirprwy bennaeth.”.
(4) Yn rheoliad 24(7), yn lle'r gair “Rhaid”, rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (7A), rhaid”.
(5) Ar ôl paragraff (7) o reoliad 24 mewnosoder—“
(7A) Caiff y corff llywodraethu benderfynu peidio â hysbysebu'n unol â pharagraff (7) y swydd wag i bennaeth neu ddirprwy bennaeth pan fo'r swydd wag honno mewn ysgol a enwir mewn cynigion a gyhoeddir o dan adrannau 29 i 32 o Ddeddf 1998 fel un y caiff disgyblion sydd mewn ysgol sydd i'w therfynu ei mynychu (“yr ysgol newydd”) ac—
(a)  bod person a gyflogir yn yr ysgol newydd neu yn yr ysgol sydd i'w therfynu wedi mynegi ei ddymuniad mewn ysgrifen i'r corff llywodraethu i wneud cais am y swydd wag i bennaeth neu ddirprwy bennaeth; neu
(b) nad oes unrhyw berson o'r math a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (a), ond bod person yn cael ei gyflogi mewn ysgol yn rhywle arall yn ardal yr awdurdod sydd naill ai i'w therfynu'n unol â chynigion a gyhoeddir o dan adrannau 29 i 32 o Ddeddf 1998, neu sydd wedi ei henwi mewn cynigion o'r fath fel un y caiff disgyblion yn yr ysgol sydd i'w therfynu ei mynychu a bod y person hwnnw wedi mynegi ei ddymuniad mewn ysgrifen i'r corff llywodraethu i wneud cais am y swydd wag i bennaeth neu ddirprwy bennaeth.”.
3 
Yn rheoliad 34—
(a) yn is-baragraff (a) o baragraff (5), ar ôl y geiriau “ailhysbysebu'r swydd wag” mewnosoder y geiriau “, neu pan na fo eisoes wedi ei hysbysebu yn rhinwedd rheoliad 24(7A), caiff ei hysbysebu”;
(b) yn is-baragraff (b) o baragraff (5), ar ôl y geiriau “p'un a fydd yn” mewnosoder y geiriau “hysbysebu neu'n”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
2 Rhagfyr 2009