
2009 Rhif 311 (Cy.33)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2009
Gwnaed 17 Chwefror 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 18 Chwefror 2009
Yn dod i rym 11 Mawrth 2009
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 71, 128, 129 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Enw, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2009 sy'n dod i rym ar 11 Mawrth 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio rheoliad 1 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997
2 
Yn y diffiniad o “NHS sight test fee” yn rheoliad 1(2) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 —
(a) yn lle “£53.34” rhodder “£54.67”; a
(b) yn lle “£19.32” rhodder “£19.80”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
17 Chwefror 2009