
2009 Rhif 3105 (Cy.271)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2009
Gwnaed 26 Tachwedd 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 27 Tachwedd 2009
Yn dod i rym 19 Rhagfyr 2009

Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2), 17(2), 26(1)(a) a (2)(a) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra'r oedd y Rheoliadau hyn yn cael eu paratoi a'u gwerthuso.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2009, a deuant i rym ar 19 Rhagfyr 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygiadau i Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007
2 
Mae Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007 yn cael eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 9.
3 
Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) ar ôl y diffiniad o “Rheoliad 2023/2006” (“Regulation 2023/2006”) mewnosoder y diffiniad canlynol—“
 ystyr “Rheoliad 450/2009” (“Regulation 450/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 450/2009 ar ddeunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd;”, a
(ii) yn y diffiniad o “mewnforio” (“import”) yn lle “Aelod-wladwriaeth” rhodder “Gwladwriaeth Ardal Economaidd Ewropeaidd”; a
(b) hepgorer paragraff (2).
4 
Ar ôl rheoliad 4 (gorfodi Rheoliad 1935/2004) mewnosoder y canlynol fel rheoliad 4A—“
Gorfodi Rheoliad 450/2009
4A 
Bydd unrhyw berson sy'n torri unrhyw un o'r darpariaethau canlynol o Reoliad 450/2009 yn euog o dramgwydd—
(a) Erthygl 4(f) (gwahardd rhoi ar y farchnad ddeunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus nad ydynt yn cydymffurfio â'r gofynion labelu);
(b) Erthygl 11(1) a (2) (rheolau ychwanegol ar labelu), fel y'i darllenir gyda 4ydd indent Erthygl 14;
(c) Erthygl 12 (datganiad cydymffurfio); ac
(ch) Erthygl 13 (dogfennau ategol).”.
5 
Ar ôl rheoliad 6 (awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 1934/2004), mewnosoder y canlynol fel rheoliad 6A—“
Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 450/2009
6A 
Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Erthygl 13 o Reoliad 450/2009 yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd a'r awdurdod sydd â chyfrifoldeb dros orfodi yn unol â rheoliad 14(1).”.
6 
Ym mharagraff (2)(a) o reoliad 13 (tramgwyddau a chosbau), yn lle “rheoliad 4 neu 5” rhodder “rheoliad 4, 4A neu 5”.
7 
Yn lle rheoliad 14 (gorfodi) rhodder y canlynol–“
14 

(1) Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth weithredu a gorfodi—
(a) darpariaethau Rheoliad 1935/2004 a grybwyllir yn rheoliad 4;
(b) darpariaethau Rheoliad 450/2009 a grybwyllir yn rheoliad 4A; ac
(c) yn ddarostyngedig i baragraff (3), y Rheoliadau hyn.
(2) Caiff yr Asiantaeth Safonau Bwyd weithredu a gorfodi darpariaethau—
(a) Erthyglau 16(1) ac 17(2) o Reoliad 1935/2004; a
(b) Erthygl 13 o Reoliad 450/2009.
(3) Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal weithredu a gorfodi darpariaethau Rheoliad 2023/2006 a grybwyllir yn rheoliad 5.”.
8 
Ym mharagraff (2) o reoliad 18 (amddiffyniadau cyffredinol), yn lle “reoliad 4 neu 13(1)(a)” rhodder “reoliad 4, 4A neu 13(1)(a)”.
9 
Yn rheoliad 21 (gweithredu amryfal ddarpariaethau o'r Ddeddf)—
(a) ym mharagraff (2), yn lle “Reoliad 1935/2004 neu, fel y bo'n briodol, at Reoliad 2023/2006.” rhodder “Reoliad 1935/2004, Rheoliad 2023/2006 neu Reoliad 450/2009 fel y bo'n briodol.”; a
(b) ym mharagraff (3), yn lle “Reoliad 1935/2004 neu, fel y bo'n briodol, at Reoliad 2023/2006,” rhodder “Reoliad 1935/2004, Rheoliad 2023/2006 neu Reoliad 450/2009 fel y bo'n briodol”.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
26 Tachwedd 2009