
2009 Rhif 3052 (Cy.268)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Cymunedau Pentref Llaneirwg, Tredelerch a Trowbridge) 2009
Gwnaed 17 Tachwedd 2009
Yn dod i rym 1 Rhagfyr 2009

Mae'r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, dyddiedig Chwefror 2009 ar adolygiad a wnaed gan Gyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd ar ffiniau cymunedau, ynghyd â chynigion a luniwyd gan y Comisiwn gogyfer â'r rheiny.
Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i gynigion y Comisiwn heb addasiadau.
Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi'u breinio bellach ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Cymunedau Pentref Llaneirwg, Tredelerch a Trowbridge) 2009 a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2009.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 Mae “Map A” (“Map A”),“Map B” (“Map B”) a “Map C” (“Map C”) yn golygu yn eu tro y mapiau sydd wedi'u marcio A, B ac C yng Ngorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Cymunedau Pentref Llaneirwg, Tredelerch a Trowbridge) 2009, sydd wedi'u hadneuo yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976; ac
 os dangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, llinell reilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol gyffelyb, mae i'w thrin fel un sy'n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.
3 
Gwneir newidiadau i ardal llywodraeth leol Dinas a Sir Caerdydd yn unol â'r darpariaethau a ganlyn yn y Gorchymyn hwn.
Trowbridge a Phentref Llaneirwg — newid mewn ardaloedd cymunedol
4 

(1) Trosglwyddir y rhannau o gymuned Trowbridge a ddisgrifir ym mharagraff (2) i gymuned Pentref Llaneirwg.
(2) Y rhannau hynny yw—
(i) y rhan a ddangosir â chroeslinellau ar Fap A;
(ii) y rhan a ddangosir â chroeslinellau ar Fap B;
(iii) y rhan a ddangosir fel rhan groeslinellog “a” ar Fap C.
Tredelerch a Phentref Llaneirwg — newid mewn ardaloedd cymunedol
5 
Trosglwyddir y rhan honno o gymuned Tredelerch a ddangosir fel rhan groeslinellog “b” ar Fap C i gymuned Pentref Llaneirwg.
Pentref Llaneirwg/Pontprennau — adran etholiadol
6 
Mae'r rhan a drosglwyddir o dan erthyglau 4 a 5 yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pentref Llaneirwg/Pontprennau.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
17 Tachwedd 2009