
2009 Rhif 3047 (Cy.266)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau) 2009
Gwnaed 16 Tachwedd 2009
Yn dod i rym 1 Rhagfyr 2009

Mae'r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Mai 2009 ar ei adolygiad o gymunedau mewn rhan o Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'i gynigion ar eu cyfer.
Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hynny heb eu haddasu.
Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi'u breinio bellach ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau) 2009 a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2009.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Map A” (“Map A”) yw'r map sydd wedi'i farcio “Map A o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau) 2009” ac sydd wedi'i adneuo yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “Map B” (“Map B”) yw'r map sydd wedi'i farcio “Map B o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau) 2009” ac sydd wedi'i adneuo yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976; ac
 os dangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, llinell reilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i'w thrin fel un sy'n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.
3 
Mae newidiadau wedi'u gwneud yn ardal llywodraeth leol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn unol â darpariaethau canlynol y Gorchymyn hwn.
Bracla a Phen-y-bont ar Ogwr — newid mewn ardaloedd cymunedol
4 
Mae'r rhan o gymuned Bracla a ddangosir fel ardal “A” gyda chroeslinellau ar Fap A—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Pen-y-bont ar Ogwr;
(b) yn ffurfio rhan o ward yr Hengastell o gymuned Pen-y-bont ar Ogwr; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol yr Hengastell.
Llangrallo Isaf a Phen-y-bont ar Ogwr — newid mewn ardaloedd cymunedol
5 
Mae'r rhan o gymuned Llangrallo Isaf a ddangosir fel ardal “B” gyda chroeslinellau ar Fap A—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Pen-y-bont ar Ogwr;
(b) yn ffurfio rhan o ward yr Hengastell o gymuned Pen-y-bont ar Ogwr; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol yr Hengastell.
Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Mawr — newid mewn ardaloedd cymunedol
6 
Mae'r rhan o gymuned Pen-y-bont ar Ogwr a ddangosir gyda chroeslinellau ar Fap B—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Merthyr Mawr; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Bryntirion, Trelales a Merthyr Mawr.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
16 Tachwedd 2009