
2009 Rhif 3005 (Cy.264)
GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2009
Gwnaed 11 Tachwedd 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Tachwedd 2009
Yn dod i rym 7 Rhagfyr 2009
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 124 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 7 Rhagfyr 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989.
Diwygio'r prif Reoliadau
2 
Yn Atodlen 2 i'r prif Reoliadau dileer y geiriau–
 “Guernsey and its bailiwick”, a
 “Jersey”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Tachwedd 2009