
2009 Rhif 2940 (Cy.257)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Symud Anifeiliaid (Cyfyngiadau) (Cymru) (Diwygio) 2009
Gwnaed 3 Tachwedd 2009
Yn dod i rym 25 Tachwedd 2009
Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1 ac 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Symud Anifeiliaid (Cyfyngiadau) (Cymru) (Diwygio) 2009. Mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 25 Tachwedd 2009.
Diwygio
2 

(1) Diwygir Gorchymyn Symud Anifeiliaid (Cyfyngiadau) (Cymru) 2003 fel a ganlyn.
(2) Yn lle erthygl 5 rhodder—“
Datgan parth rheolaeth dros dro
5 

(1) Os bydd Gweinidogion Cymru'n amau—
(a) bod clefyd yn bodoli ar unrhyw fangre; neu
(b) y gall anifeiliaid ar unrhyw fangre fod neu fod wedi bod mewn cyffyrddiad â chlefyd,
cânt ddatgan yn ysgrifenedig fod ardal yn barth rheolaeth dros dro.
(2) Rhaid i radiws parth rheolaeth dros dro fod yn 1 cilometr o leiaf, neu'n fwy os yw Gweinidogion Cymru yn barnu bod hynny'n angenrheidiol er mwyn atal clefyd rhag ymledu.
(3) Bernir bod unrhyw fangre sy'n rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth rheolaeth dros dro yn gyfan gwbl y tu mewn i'r parth hwnnw.
(4) Mewn datganiad o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) nodi'n benodol pa glefyd y mae Gweinidogion Cymru'n amau ei fod yn bodoli, neu, os nad amheuir bod clefyd penodol yn bodoli, ddatgan bod Gweinidogion Cymru'n amau bod clefyd yn bodoli; a
(b) nodi'n benodol rywogaeth yr anifail y mae'r datganiad yn gymwys iddo.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru bennu mewn datganiad o dan baragraff (1)—
(a) y mesurau bioddiogelwch y mae'n rhaid eu rhoi ar waith ar fangre mewn parth rheolaeth dros dro neu mewn unrhyw ran o'r parth hwnnw; a
(b) y cyfryw fesurau eraill ag y bydd Gweinidogion Cymru o'r farn bod eu hangen i atal clefyd rhag ymledu ac sydd i fod yn gymwys yn y parth rheolaeth dros dro, neu mewn unrhyw ran o'r parth hwnnw.
(6) Mewn datganiad o dan baragraff (1) caiff Gweinidogion Cymru wahardd symud unrhyw anifail neu beth sy'n gallu lledaenu clefyd—
(a) i mewn i'r parth rheolaeth dros dro neu allan ohono; a
(b) i unrhyw fangre yn y parth rheolaeth dros dro neu oddi arni.
(7) Ond caiff person symud unrhyw anifail neu beth o'r fath o dan awdurdod trwydded a ddyroddir gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
(8) Rhaid i berson y mae gofyniad neu waharddiad mewn datganiad o dan baragraff (1) yn gymwys iddo—
(a) cydymffurfio â'r gofyniad neu'r gwaharddiad; a
(b) cydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol y caiff arolygydd milfeddygol neu arolygydd i'r awdurdod lleol ei wneud i sicrhau y cydymffurfir â'r gofyniad neu'r gwaharddiad.
(9) Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, ddirymu neu ddiwygio'n ysgrifenedig ddatganiad o dan baragraff (1).
(10) Rhaid i'r cyfryw ddiwygiad neu ddirymiad—
(a) cyfeirio at y datganiad; a
(b) datgan y dyddiad a'r amser y mae'r dirymiad neu'r diwygiad i fod i ddod yn effeithiol.”.
(3) Hepgorer erthygl 6.
(4) Yn erthygl 10, ar ôl paragraff 1, mewnosoder—“
(1A) Caiff trwydded o dan y Gorchymyn hwn fod yn gyffredinol neu'n benodol.”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
3 Tachwedd 2009