
2009 Rhif 2939 (Cy.256)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2009
Gwnaed 2 Tachwedd 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Tachwedd 2009
Yn dod i rym 27 Tachwedd 2009
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac 17(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2009, ac y maent yn dod i rym ar 27 Tachwedd 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2009
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2009 fel a ganlyn.
(2) Yn nhestun Cymraeg rheoliad 2(1), yn lle “Rhif XXX/2008” rhodder “Rhif 124/2009”.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
2 Tachwedd 2009