
2009 Rhif 2915 (Cy.255)
TRAFNIDIAETH, CYMRU
Gorchymyn Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru (Sefydlu) (Diwygio) 2009
Gwnaed 2 Tachwedd 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 3 Tachwedd 2009
Yn dod i rym 25 Tachwedd 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 8, 9 a 10 o Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru (Sefydlu) (Diwygio) 2009. Daw i rym ar 25 Tachwedd 2009 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009
2 

(1) Diwygir Gorchymyn Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009 yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn y testun Cymraeg, yn erthygl 7(1)(ch), rhodder y gair “gweithdrefn” yn lle'r gair “gweithdrefnau.”
(3) Yn y testun Cymraeg, yn erthygl 8(1) rhodder y gair “weithdrefn” yn lle'r gair “weithdrefnau.”
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.
2 Tachwedd 2009