
2009 Rhif 2880 (Cy.253)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2009
Gwnaed 27 Hydref 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Hydref 2009
Yn dod i rym 20 Tachwedd 2009

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1), (26)(1)(a) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, cafwyd ymgynghori cyhoeddus agored a thryloyw yn ystod y cyfnod yr oedd y Rheoliadau hyn yn cael eu llunio a'u gwerthuso.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 20 Tachwedd 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996
2 

(1) Mae Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 wedi'u diwygio'n unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 50 (darpariaeth drosiannol), yn lle paragraff (15) rhodder y canlynol—“
(15) In any proceedings for an offence under regulation 44(1)(a) it is a defence to prove that—
(a) in the case of—
(i) wine in which lysozyme is used, or in which albumin (produced from egg) or a milk (casein) product has been used as a fining agent, the food concerned was sold before 31 December 2010 or marked or labelled before that date, or
(ii) any other food, the food concerned was sold before 31 May 2009 or marked or labelled before that date; and
(b) the matters constituting the alleged offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made by regulation 2 of the Food Labelling (Declaration of Allergens) (Wales) Regulations 2009 had not been in operation when the food was sold.”.
Dirymu
3 
Mae rheoliad 2(6) o Reoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2008 wedi ei ddirymu.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Hydref 2009