
2009 Rhif 2861 (Cy.250)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) (Diwygio) 2009
Gwnaed 27 Hydref 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 28 Hydref 2009
Yn dod i rym 18 Tachwedd 2009
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran mesurau sy'n ymwneud ag atal, cwtogi a dileu llygredd a achosir gan wastraff. Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 18 Tachwedd 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005
2 
Diwygir Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 fel a ganlyn.
Diwygio rheoliad 5 (dehongli'n gyffredinol)
3 
Yn rheoliad 5(1), yn lle'r diffiniad o “mangre” (“premises”), rhodder—“
 mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys tir ac unrhyw long ac unrhyw ffurf arall ar drafnidiaeth y gweithredir gwasanaeth symudol oddi arni;”.
Diwygio rheoliad 12 (cymhwyso cyffredinol ar Rannau 4 i 10)
4 
Yn lle rheoliad 12(2), rhodder—“
(2) Ac eithrio fel y darperir yn rheoliadau 13 (gwastraff asbestos) a 14 (ffracsiynau domestig a wahanwyd), nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wastraff domestig.”.
Disodli rheoliad 13 (gwastraff asbestos)
5 
Yn lle rheoliad 13, rhodder—“
Gwastraff asbestos
13 

(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wastraff asbestos boed yn wastraff domestig ai peidio.
(2) Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn gosod rhwymedigaethau ar feddiannydd mangre ddomestig mewn cysylltiad â gwastraff asbestos a gynhyrchwyd yn y fangre honno.
(3) Mae contractwr a gafodd ei gymryd ymlaen i wneud unrhyw waith mewn mangre ddomestig sy'n cynhyrchu gwastraff asbestos, neu sy'n ymwneud â gwastraff asbestos i'w drin fel cynhyrchwr y gwastraff asbestos hwnnw, ac, os nad yw'r contractwr yn cymryd ymlaen berson arall i fod yn draddodwr, fel traddodwr y gwastraff asbestos hwnnw.”.
Disodli rheoliad 14 (ffracsiynau domestig a gasglwyd ar wahân)
6 
Yn lle rheoliad 14, rhodder—“
Ffracsiynau domestig a wahanwyd
14 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw ffracsiwn domestig a wahanwyd, sef, gwastraff peryglus—
(a) sy'n wastraff domestig; a
(b) sydd wedi'i wahanu oddi wrth wastraff domestig arall.
(2) Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn gosod rhwymedigaethau ar feddiannydd mangre ddomestig mewn cysylltiad â ffracsiynau domestig a wahanwyd a gynhyrchwyd yn y fangre honno.
(3) Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ffracsiynau domestig a wahanwyd o'r adeg pan gaiff y gwastraff ei dderbyn ar gyfer ei gasglu, ei waredu neu ei adfer—
(a) o'r fangre ddomestig lle cafodd y gwastraff ei gynhyrchu; neu
(b) o safle ar gyfer derbyn gwastraff domestig y cymerir y ffracsiynau domestig a wahanwyd iddo gan feddiannydd mangre ddomestig.
(4) Ar ôl i ffracsiynau domestig a wahanwyd gael eu symud ymaith o'r fangre lle cynhyrchwyd y gwastraff a chael ei gludo i fangre arall ar gyfer ei gasglu, ei waredu neu ei adfer, rhaid trin unrhyw sefydliad neu ymgymeriad sy'n derbyn y ffracsiynau domestig a wahanwyd ar gyfer eu casglu, eu gwaredu neu eu hadfer, o'r adeg pan dderbynnir y gwastraff felly, fel cynhyrchydd y gwastraff at ddibenion y Rheoliadau hyn.”.
Mewnosod rheoliad 14A (gwastraff peryglus a gynhyrchir mewn mangre siop)
7 
Ar ôl rheoliad 14, mewnosoder—“
14A 

(1) Caiff gwastraff peryglus a gynhyrchwyd mewn mangre siop gan gwsmeriaid y meddiannydd ei drin at ddibenion y Rheoliadau hyn megis petai'r meddiannydd wedi'i gynhyrchu.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, mae i “mangre siop” yr ystyr a roddir i “shop premises” gan adran 1(3) o Ddeddf Swyddfeydd, Siopau a Mangreoedd Rheilffyrdd 1963.”.
Diwygio rheoliad 21 (gofyniad i hysbysu'r fangre)
8 
Yn rheoliad 21(1), ar ôl “oddi yno” mewnosoder “neu ei gasglu oddi yno”.
Disodli rheoliad 23 (esemptiad o'r gofyniad i hysbysu)
9 
Yn lle rheoliad 23, rhodder—“
Esemptiad o'r gofyniad i hysbysu
23 

(1) Nid oes angen hysbysu mangre esempt i'r Asiantaeth yn unol â'r Rhan hon.
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae mangre yn fangre esempt os yw'n cydymffurfio â'r amod ym mharagraff (3) ac â'r naill neu'r llall o'r amodau ym mharagaff (4) neu (5).
(3) Yr amod yn y paragraff hwn yw nad oes unrhyw wastraff peryglus yn cael ei symud ymaith o'r fangre gan unrhyw berson heblaw—
(a) cludwr a gofrestrwyd o dan Ddeddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989; neu
(b) cludwr sydd wedi'i eithrio rhag y gofyniad i gofrestru o dan y Ddeddf honno.
(4) Yr amod yn y paragraff hwn yw fod y fangre yn llong.
(5) Yr amod yn y paragraff hwn yw fod y terfynau cymwys yn gymwys.”.
Diwygio rheoliad 26 (darpariaethau cyffredin ynghylch hysbysiadau)
10 
Yn lle rheoliad 26(8), rhodder—“
(8) Rhaid i'r Asiantaeth, os caiff gais i wneud hynny, hysbysu person sy'n ddeiliad gwastraff peryglus neu sy'n cynnal busnes traddodi neu gasglu gwastraff peryglus, os yw unrhyw fangre lle mae'r person hwnnw yn bwriadu symud ymaith ohoni, peri symud ymaith ohoni neu'n bwriadu cludo unrhyw wastraff peryglus yn fangre a hysbyswyd, ac os felly, y manylion sydd gan yr Asiantaeth ynghylch—
(a) cyfeiriad y fangre, gan gynnwys y cod post;
(b) cod y fangre;
(c) enw deiliad cod y fangre; ac
(ch) y dyddiad y daw cod y fangre i ben arno, sef diwedd y cyfnod hysbysu.”.
Disodli rheoliad 30 (y terfynau cymwys)
11 
Yn lle rheoliad 30, rhodder—“
Y terfynau cymwys
30 

(1) Y terfynau cymwys ar gyfer—
(a) gwasanaeth symudol yw bod cyfanswm yr holl wastraff peryglus a gynhyrchir yn y fangre, neu a gesglir ynddi neu a symudir ohoni wrth gynnal y gwasanaeth hwnnw mewn unrhyw set unigol o fangreoedd cysylltiedig yn llai na 500kg mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis; a
(b) unrhyw fangre esempt, yw bod cyfanswm yr holl wastraff peryglus a gynhyrchir yn y fangre neu a gesglir ynddi neu a symudir ohoni yn llai na 500kg mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis.
(2) Wrth gyfrifo swm yr holl wastraff peryglus rhaid peidio â rhoi cyfrif am unrhyw swm o wastraff peryglus yn erbyn mwy nag un o'r gweithgareddau ym mharagraff (1)(a) neu (b).”.
Diwygio rheoliad 32 (dehongli'n gyffredinol Ran 5)
12 
Yn rheoliad 32—
(a) hepgorer y diffiniadau a ganlyn—
 “cludwr cofrestredig” (“registered carrier”),
 “cyfarpar gwastraff trydanol ac electronig” (“waste electrical and electronic equipment”),
 “Deddf 1963” (“the 1963 Act”),
 “mangre siop” (“shop premises”), a
 “mangre swyddfa” (“office premises”); a
(b) yn y man priodol mewnosoder—“
 mae i'r ymadrodd “cod mangre” (“premises code”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 27(1);
 mae i'r ymadrodd “terfynau cymwys” (“qualifying limitation”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 30;”.
Diwygio rheoliad 42 (dyletswydd traddodai nad yw'n derbyn y traddodi)
13 
Yn rheoliad 42—
(a) ym mharagraff (3)(a), yn lle “dangos ar Ran E”, rhodder “dangos, yn y rhan ag iddo'r pennawd “tystysgrif y traddodai””;
(b) yn lle paragraff (6)(a) rhodder—“
(a) i wneud trefniadau cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol i drosglwyddo'r llwyth neu'r rhan o'r llwyth a wrthodwyd i draddodai penodedig arall sy'n dal trwydded gwastraff neu sy'n gwneud gwaith gwastraff esempt ar gyfer adfer neu waredu'r gwastraff; a,”; ac
(c) ar ôl paragraff (7) mewnosoder—“
(8) Yn y rheoliad hwn, mae i “gwaith gwastraff esempt” yr ystyr a roddir i “exempt waste operation” yn rheoliad 5 o Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007.”.
Diwygio rheoliad 48 (cofnodion gwaredu neu adfer gwastraff peryglus drwy ddulliau eraill)
14 
Yn lle rheoliad 48(3)(c), rhodder—“
(c) y dull gwaredu neu adfer mewn perthynas â'r gwastraff drwy gyfeirio at y Rhif a'r disgrifiad cymwys yn unol ag Atodiad IIA neu IIB o'r Gyfarwyddeb Gwastraff; a”.
Diwygio rheoliad 49 (cofnodion cynhyrchwyr, deiliaid a thraddodwyr)
15 
Yn rheoliad 49(1), ar ôl y geiriau “os yw'n wahanol i'r cynhyrchydd,” mewnosoder “neu'r deiliad”.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
27 Hydref 2009