
2009 Rhif 2849 (Cy.249)
GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU
Gorchymyn Cynlluniau Cyfunol y Gwasanaethau Tân ac Achub (Amrywio) (Cymru) 2009
Gwnaed 24 Hydref 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 27 Hydref 2009
Yn dod i rym 1 Rhagfyr 2009

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 4(4), 60 a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy.

Yn unol ag adran 4(5) o'r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r awdurdodau penodedig ac unrhyw bersonau eraill a ystyrir yn briodol ganddynt ac yn unol ag adran 4(7)(a) o'r Ddeddf honno maent wedi sicrhau fod pob awdurdod cyfunol a phob awdurdod priodol arall yn cytuno â gwneud y Gorchymyn hwn:
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynlluniau Cyfunol y Gwasanaethau Tân ac Achub (Amrywio) (Cymru) 2009 a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2009.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “cynlluniau perthnasol” (“relevant schemes”) yw—
(a) Cynllun Cyfuno Gwasanaethau Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, a osodir yn yr Atodlen i Orchymyn Gwasanaethau Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru (Cynllun Cyfuno) 1995;
(b) Cynllun Cyfuno Gwasanaethau Tân Gogledd Cymru a osodir yn yr Atodlen i Orchymyn Gwasanaethau Tân Gogledd Cymru (Cynllun Cyfuno) 1995; ac
(c) Cynllun Cyfuno Gwasanaethau Tân De Cymru a osodir yn yr Atodlen i Orchymyn Gwasanaethau Tân De Cymru (Cynllun Cyfuno) 1995.
Amrywio'r cynlluniau perthnasol
2 
Mae pob un o'r cynlluniau perthnasol yn cael eu hamrywio fel a ganlyn—
(a) yn is-baragraff (9) o baragraff 21, dileer—“
 , but may, for the purposes of preparing the estimate referred to in sub-paragraph (2) and if the Authority so resolve, include such amount or amounts as the Authority considers appropriate with a view to minimising any upward revision of an estimate under sub-paragraph (6)”;
(b) ar ôl paragraff 21, mewnosoder—“
21A 

(1) The Authority’s net expenses for the purposes of paragraph 21 may include such sum as is determined by the Authority for the purpose of providing reserves.
(2) The power for the Authority to create or hold reserves is without prejudice to any specific statutory power or duty which it may have to establish any other reserve.”.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
24 Hydref 2009