
2009 Rhif 2819 (Cy.245) (C.124)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (Cychwyn Rhif 2) 2009
Gwnaed 16 Hydref 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 28(2) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (Cychwyn Rhif 2) 2009.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.
Diwrnodau penodedig
2 

(1) Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 30 Hydref 2009:
(a) adran 1(4)(j) (y prif dermau a ddefnyddir yn y Mesur hwn) at ddibenion adran 12;
(b) adran 12 (cod ymddygiad wrth deithio);
(c) adran 26 (diddymiadau) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 2 isod;
(ch) yn Atodlen 2 (diddymiadau), diddymu paragraff 4 o Atodlen 10 i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006.
(2) Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 4 Ionawr 2010:
(a) adran 13 (gorfodi cod ymddygiad wrth deithio: disgyblion mewn ysgolion perthnasol);
(b) adran 14 (gorfodi cod ymddygiad wrth deithio: tynnu'n ôl drefniadau teithio);
(c) adran 17(4) (cydweithredu: gwybodaeth neu gymorth arall).
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
16 Hydref 2009