
2009 Rhif 2730 (Cy.234)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Personau sy'n Darparu Addysg Mewn Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru (Amodau) (Diwygio) 2009
Gwnaed 10 Hydref 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Hydref 2009
Yn dod i rym 4 Tachwedd 2009
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 136(c), adran 210(7), ac adran 214(1) a (2) o Ddeddf Addysg 2002, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Personau sy'n Darparu Addysg mewn Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru (Amodau) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 4 Tachwedd 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygiadau i Reoliadau Personau sy'n Darparu Addysg mewn Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru (Amodau) 2007
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Personau sy'n Darparu Addysg mewn Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru (Amodau) 2007 fel a ganlyn.
(2) Yn nhestun Saesneg rheoliad 3(1), ar ôl “the Police Act 1997”, hepgorer y geiriau “of that Act”.
(3) Yn nhestun Cymraeg rheoliad 3(1), yn lle “o'r Ddeddf honno” rhodder “o Ddeddf yr Heddlu 1997”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
10 Hydref 2009