
2009 Rhif 267 (Cy.30)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRUCYLLID
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2009
Gwnaed 10 Chwefror 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Chwefror 2009
Yn dod i rym 28 Chwefror 2009
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 32(9), 33(4), 43(7), 44(4) a 113(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran awdurdodau yng Nghymru.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2009.
(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
Cyfrifo anghenion cyllideb (awdurdodau bilio)
2 
Mae adran 32 o Ddeddf 1992 yn effeithiol fel pe bai—
(a) yn is-adran (3)(a), y geiriau “or relevant special grant” wedi eu hepgor; a
(b) ar ôl is-adran (12), yr is-adran ganlynol wedi ei mewnosod—“
(12A) In this section and section 33 below—
(a) references to sums payable for the financial year in respect of redistributed non-domestic rates are references to sums so payable in accordance with the Local Government Finance Report (No.1) 2009—2010 (Final Settlement — Councils) approved by resolution of the National Assembly for Wales pursuant to section 84H(2) of, and paragraph 11B(1) of Schedule 8 to, the Local Government Finance Act 1988 on 13 January 2009; and
(b) references to sums payable for the financial year in respect of revenue support grant are references to sums so payable in accordance with that report.”.
Cyfrifo swm sylfaenol y dreth gyngor (awdurdodau bilio)
3 
Mae adran 33(1) o Ddeddf 1992 yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “or relevant special grant” yn eitem P wedi eu hepgor.
Cyfrifo anghenion cyllideb (prif awdurdodau praeseptio)
4 
Mae adran 43 o Ddeddf 1992 yn effeithiol fel pe bai—
(a) yn is-adran (3)(a)(i)—
(i) y geiriau “relevant special grant” wedi eu hepgor; a
(ii) y geiriau “floor funding” wedi eu mewnosod o flaen “or police grant;”; a
(b) ar ôl is-adran (6D) yr is-adrannau a ganlyn wedi eu mewnosod—“
(6E) In this section and section 44 below—
(a) references to sums payable for the financial year in respect of redistributed non-domestic rates are references to sums so payable in accordance with the Local Government Finance Report (No.2) 2009—2010 (Final Settlement — Police Authorities) approved by resolution of the National Assembly for Wales pursuant to section 84H(2) of, and paragraph 11B(1) of Schedule 8 to, the Local Government Finance Act 1988 on 10 February 2009; and
(b) references to sums payable for the financial year in respect of revenue support grant are references to sums so payable in accordance with that report.
(6F) In this section and section 44 below, “floor funding” means grant payable to a major precepting authority by the Secretary of State in addition to the police grant referred to in subsection (6C).”.
Cyfrifo swm sylfaenol y dreth gyngor (prif awdurdodau praeseptio)
5 
Mae adran 44(1) o Ddeddf 1992 yn effeithiol fel pe bai yn eitem P—
(a) y geiriau “relevant special grant” wedi eu hepgor; a
(b) y geiriau “floor funding” wedi eu mewnosod o flaen “or police grant;”.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
10 Chwefror 2009