
2009 Rhif 2633 (Cy.216)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Coleg Garddwriaeth Cymru (Diddymu) (Diwygio) 2009
Gwnaed 29 Medi 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1 Hydref 2009
Yn dod i rym 23 Hydref 2009
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 i'r Ysgrifennydd Gwladol ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Coleg Garddwriaeth Cymru (Diddymu) (Diwygio) 2009 a daw i rym ar 23 Hydref 2009.
Diwygio Gorchymyn Coleg Garddwriaeth Cymru (Diddymu) 2009
2 
Yn nhestun Cymraeg Gorchymyn Coleg Garddwriaeth Cymru (Diddymu) 2009 ym mharagraff 2 o Ran 1 o'r Atodlen hepgorer y geiriau “ymyl du a chroeslinellau” a rhodder yn eu lle y geiriau “ymyl du a llinellau lletraws”.
John Griffiths
Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
29 Medi 2009