
2009 Rhif 2617 (Cy.213)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trosglwyddo Ystad Weddilliol) (Cymru) 2009
Gwnaed 29 Medi 2009
Yn dod i rym 1 Hydref 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 11(6) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 22(1) a (3) a pharagraff 23(3) a (7) o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno ac adran 18(4) a pharagraff 9(1), (3), (5) a (9) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, a chyda chytundeb y Bwrdd Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol perthnasol yn unol â pharagraff 22(2) o Atodlen 2 a pharagraff 9(7) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, yn eu trefn drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, Cychwyn a Chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trosglwyddo Ystad Weddilliol) (Cymru) 2009, a daw i rym ar 1 Hydref 2009.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
 ystyr “corff Gwasanaeth Iechyd Gwladol” (“National Health Service body”) yw'r corff perthnasol a restrir yng ngholofn 2 o'r Atodlen;
 ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 Hydref 2009;
 “yr ystad weddilliol” (“the residual estate”) yw'r ystad honno a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen.
Trosglwyddo Ystad Weddilliol
3 

(1) Trosglwyddir yr ystad weddilliol i'r corff Gwasanaeth Iechyd Gwladol perthnasol o'r dyddiad trosglwyddo.
(2) Rhaid i'r corff Gwasanaeth Iechyd Gwladol perthnasol gadw at delerau unrhyw les a drosglwyddwyd iddo yn rhinwedd yr erthygl hon.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
29 Medi 2009
ATODLEN
Erthygl 2


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3 Colofn 4
Ystad Weddilliol Corff Gwasanaeth Iechyd Gwladol Teitl Rhif Cofrestrfa Tir
Canolfan Iechyd Blaenafon, Church Road, Blaenafon NP4 9AF BILl Aneurin Bevan Rhydd-ddaliadol CYM438269
15 Lodge Road, Caerllion, NP18 3RA BILl Aneurin Bevan Rhydd-ddaliadol CYM438829
Clinig Cwmfelin-fach, New Street, Cwmfelin-fach, Ynys-ddu BILl Aneurin Bevan Rhydd-ddaliadol P170393
Kenfy, Y Fenni BILl Aneurin Bevan Rhydd-ddaliadol WA816527
Ysbyty Llanfrechfa Grange, Cwmbrân BILl Aneurin Bevan Rhydd-ddaliadol CYM195387
Cronfa ddŵr i'r gogledd ddwyrain o Maindiff Court Farm Cottages, Llandeilo Bertholau, Y Fenni BILl Aneurin Bevan Rhydd-ddaliadol CYM458015
Ysbyty St Cadocs, Lodge Road, Caerllion NP18 3XQ BILl Aneurin Bevan Rhydd-ddaliadol CYM438831
Ysbyty Abergele BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr Rhydd-ddaliadol CYM324609
Ysbyty Bryn Seiont BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr Rhydd-ddaliadol CYM214130
Fferm a thir Ysbyty Bryn-y-neuadd BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr Rhydd-ddaliadol CYM147728
Ysbyty Dobshill ger Bwcle BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr Rhydd-ddaliadol CYM72241
Tir i'r de o Valley Road, Llanfairfechan (Nant y Pandy) BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr Rhydd-ddaliadol CYM141402
Tir cyffiniol ag Ysbyty Cefni, Stryd y Bont, Llangefni BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr Rhydd-ddaliadol CYM450232
Eryl Don, Lôn Campbell, Caernarfon LL55 1HU BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr Rhydd-ddaliadol CYM438180
Ysbyty Lluesty, Treffynnon BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr Rhydd-ddaliadol CYM324609
Berwyn House/Cambrian House a thir, Parc Technoleg Wrecsam BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr Rhydd-ddaliadol WA951201
  Lesddaliadol WA652749
  Lesddaliadol CYM19063
Ysgol Nyrsio Fronheulog, Bangor BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr Lesddaliadol WA733812
Preswylfa, Ffordd Hendy, Yr Wyddgrug CH7 1PZ BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr Rhydd-ddaliadol CYM364741
7/9 Lôn Abaty, Bangor LL57 2EA BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr Rhydd-ddaliadol CYM440984
Ysbyty Brenhinol Caerdydd BILl Prifysgol Caerdydd a'r Fro Rhydd-ddaliadol CYM34760
   WA 449128
   CYM447570
   CYM44005
   CYM455603
Adain y Gorllewin, Glossop Terrace, Caerdydd BILl Prifysgol Caerdydd a'r Fro Rhydd-ddaliadol WA449104
   WA438545
Longcross House, CRI, Caerdydd BILl Prifysgol Caerdydd a'r Fro Rhydd-ddaliadol CYM174267
Swyddfeydd Lansdowne, Sanatorium Road, Caerdydd CF11 8PL BILl Prifysgol Caerdydd a'r Fro Rhydd-ddaliadol CYM439824
Ysbyty Bryntirion, Heol Goffa, Llanelli BILl Hywel Dda Rhydd-ddaliadol CYM116277
Clwydian House, Parc Technoleg Wrecsam, Wrecsam Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru Lesddaliadol WA540800
Y Deml Heddwch, King Edward VII Ave, Caerdydd CF10 3AP Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru Rhydd-ddaliadol CYM245532
Yr Orsaf Ambiwlans, Lôn Newydd, Llangefni Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Rhydd-ddaliadol CYM440750
Yr Orsaf Ambiwlans, Chester Road West, Queensferry, Glannau Dyfrdwy CH5 1SA Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Rhydd-ddaliadol CYM440593