
2009 Rhif 2614 (Cy.212)
ANIFEILIAID, CYMRU
Gorchymyn Dileu Twbercwlosis (Cymru) 2009
Gwnaed 28 Medi 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 30 Medi 2009
Yn dod i rym 21 Hydref 2009
Mae Gweinidogion Cymru—
 a hwythau wedi eu bodloni bod twbercwlosis yn bodoli ymhlith aelodau gwyllt o rywogaeth y mochyn daear yng Nghymru a bod y twbercwlosis hwnnw wedi cael ei drosglwyddo neu yn cael ei drosglwyddo o foch daear i anifeiliaid o unrhyw fath yn yr ardal;
 a hwythau wedi eu bodloni bod difa aelodau gwyllt o rywogaeth y mochyn daear yn yr ardal honno yn angenrheidiol er mwyn dileu nifer yr achosion o dwbercwlosis mewn anifeiliaid o unrhyw fath yn yr ardal neu eu lleihau yn sylweddol; ac
 ar ôl ymgynghori â Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn unol ag adran 21(3) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981,
 drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 21(2), (4) a (5), 72 ac 86(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dileu Twbercwlosis (Cymru) 2009 a daw i rym ar 21 Hydref 2009.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981;
 mae “carcas” (“carcase”) yn cynnwys rhan o garcas;
 ystyr “mochyn daear” (“badger”) yw anifail sy'n perthyn i'r rhywogaeth Meles meles o urdd y Carnivore; ac
 ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw—
(a) un o swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru;
(b) arolygydd milfeddygol; ac
(c) unrhyw berson nad yw'n swyddog nac yn arolygydd o'r fath, a awdurdodir gan Weinidogion Cymru i arfer y pŵer a roddir gan y Gorchymyn hwn.
Cymhwyso'r Gorchymyn at ddibenion adran 21 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981
2 
At ddibenion adran 21 (difa bywyd gwyllt) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 mae'r Gorchymyn hwn—
(a) yn gymwys i Gymru;
(b) yn gymwys i dwbercwlosis; ac
(c) yn ymwneud â rhywogaeth y mochyn daear.
Difa moch daear
3 

(1) Caiff y swyddog awdurdodedig ddifa moch daear gan ddefnyddio un o'r dulliau a nodir ym mharagraff (2).
(2) Rhaid i'r moch daear—
(a) cael eu trapio mewn cawell a naill ai—
(i) cael eu saethu; neu
(ii) cael pigiad marwol; neu
(b) cael eu saethu heb gael eu trapio mewn cawell.
(3) Eiddo Gweinidogion Cymru yw carcas unrhyw fochyn daear a gaiff ei ddifa o dan y Gorchymyn hwn a rhaid peidio â'i symud oddi ar y tir neu'r fangre lle y cafodd ei ddifa neu ei waredu mewn unrhyw ffordd heb awdurdod Gweinidogion Cymru.
Brechu moch daear
4 
Caniateir i swyddog awdurdodedig drin moch daear â brechlyn er mwyn atal twbercwlosis rhag lledu.
Pwerau mynediad
5 

(1) Caiff swyddog awdurdodedig fynd i mewn i unrhyw fangre, ac eithrio annedd, er mwyn trin moch daear â brechlyn.
(2) Mae'r pwerau a roddir gan yr erthygl hon a chan adran 22 o'r Ddeddf (pwerau mynediad ar gyfer adran 21) yn ymestyn at wneud unrhyw weithred sy'n angenrheidiol, neu sydd fel arall yn ofynnol mewn cysylltiad â'r canlynol—
(a) trin moch daear â brechlyn; neu
(b) difa moch daear.
(3) Caiff y swyddog awdurdodedig fynd â'r canlynol ag ef—
(a) unrhyw bersonau eraill sydd yn ei farn ef yn angenrheidiol i roi unrhyw gymorth sydd yn ei farn ef yn angenrheidiol;
(b) unrhyw gyfarpar sydd yn ei farn ef yn angenrheidiol.
(4) Caiff y swyddog awdurdodedig ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ar y tir neu yn y fangre sy'n dod o fewn paragraff (5) roi unrhyw gymorth a all fod yn rhesymol ofynnol at ddiben brechu moch daear.
(5) Mae'r personau a ganlyn yn dod o fewn y paragraff hwn—
(a) meddiannydd y tir neu'r fangre;
(b) person y mae'n ymddangos i'r swyddog awdurdodedig ei fod o dan gyfarwyddyd neu reolaeth y meddiannydd.
(6) Os yw'r swyddog awdurdodedig yn mynd ar unrhyw dir neu i unrhyw fangre heb ei feddiannu neu ei meddiannu, rhaid gadael y tir hwnnw neu'r fangre honno wedi ei ddiogelu neu ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad ag yr oedd pan aeth y swyddog awdurdodedig arno neu iddi.
Tramgwyddau
6 
Mae'n dramgwydd yn erbyn y Ddeddf i berson—
(a) caethiwo aelodau gwyllt o rywogaeth y mochyn daear, eu llochesu, eu cuddio neu eu hamddiffyn mewn ffordd arall gyda'r bwriad o atal eu difa neu atal eu trin â brechlyn;
(b) rhwystro neu ymyrryd mewn unrhyw ffordd arall ag unrhyw beth sydd wedi cael, yn cael neu'n mynd i gael ei wneud neu ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r difa hwnnw neu mewn cysylltiad â'u trin â brechlyn; neu
(c) helpu, annog, cynghori neu gaffael person arall i gyflawni gweithred o'r fath.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
28 Medi 2009