
2009 Rhif 2607 (Cy.210)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2009
Gwnaed 24 Medi 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 28 Medi 2009
Yn dod i rym 20 Hydref 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 121, 130, 132 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 20 Hydref 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007.
Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau
2 
Yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli) mewnosoder yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor—“
 ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;”.
Diwygio rheoliad 3 o'r prif Reoliadau
3 

(1) Mae rheoliad 3 o'r prif Reoliadau (cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr) yn cael ei ddiwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn lle paragraff (10) rhodder y canlynol—“
(10) Rhaid i fferyllydd sy'n codi ac yn casglu ffi—
(a) o dan baragraff (2) oddi wrth neu ar ran claf sy'n berson a ddisgrifir yn rheoliad 11A(1), os gofynnir iddo gan y claf neu gan gynrychiolydd y claf, ddarparu derbynneb am y swm a gafwyd yn y ffurf a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru;
(b) o dan baragraff (2) neu (5) oddi wrth neu ar ran claf nad yw'n berson a ddisgrifir yn rheoliad 11A(1), os gofynnir iddo gan y claf neu gan gynrychiolydd y claf, ddarparu derbynneb am y swm a gafwyd ar y ffurflen a ddarparwyd at y diben a rhaid i'r ffurflen honno gynnwys ffurfiau o ddatganiad yn cefnogi cais ar gyfer ad-daliad a gwybodaeth o ran i bwy y dylai cais am ad-daliad gael ei wneud.”.
Diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau
4 

(1) Mae rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan feddygon) yn cael ei ddiwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn lle paragraff (7) rhodder y canlynol—“
(7) Rhaid i feddyg sy'n codi ac yn casglu ffi o dan baragraff (2)—
(a) oddi wrth neu ar ran claf sy'n berson a ddisgrifir yn rheoliad 11A(1), os gofynnir iddo gan y claf neu gan gynrychiolydd y claf, ddarparu derbynneb am y swm a gafwyd yn y ffurf a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru;
(b) oddi wrth neu ar ran claf nad yw'n berson a ddisgrifir yn rheoliad 11A(1), os gofynnir iddo gan y claf neu gan gynrychiolydd y claf, ddarparu derbynneb am y swm a gafwyd ar y ffurflen a ddarparwyd at y diben a rhaid i'r ffurflen honno gynnwys ffurfiau o ddatganiad yn cefnogi cais ar gyfer ad-daliad a gwybodaeth o ran i bwy y dylai cais am ad-daliad gael ei wneud.”.
Diwygio rheoliad 8 o'r prif Reoliadau
5 
Yn rheoliad 8 o'r prif Reoliadau (esemptiadau), ar ôl paragraff (1)(d) mewnosoder y canlynol—“
(da) person sydd â thystysgrif esemptio ddilys a ddyroddwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol ar y sail bod y person yn cael triniaeth am—
(i) cancr;
(ii) effeithiau cancr, neu
(iii) effeithiau triniaeth am gancr,
pan ddefnyddir y dystysgrif ynghylch cyffuriau neu gyfarpar a gyflenwir ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2009.
(db) person sydd â thystysgrif esemptio ddilys a ddyroddwyd ar unrhyw un o'r seiliau yn is-baragraff (da) o dan drefniadau cyfatebol sy'n cael effaith yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon pan ddefnyddir y dystysgrif ynghylch cyffuriau neu gyfarpar a gyflenwir ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2009.”.
Diwygio rheoliad 9 o'r prif Reoliadau
6 

(1) Mae rheoliad 9 o'r prif Reoliadau (tystysgrifau esemptio — gwneud cais amdanynt a'u rhoi) yn cael ei ddiwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (1)—
(a) ar ôl is-baragraff (c), mewnosoder y canlynol—“
  ;
(ch) ei fod yn berson sy'n cael triniaeth fel a bennir yn rheoliad 8(1)(da)”; a
(b) yn lle'r geiriau “o dan is-baragraff (a) neu (b)”, rhodder “o dan is-baragraff (a), (b) neu (ch)”.
(3) Ym mharagraff (3) yn lle'r geiriau “o dan baragraff (1)(b)”, rhodder “o dan baragraff (1)(b) neu (1)(ch)”.
Mewnosod rheoliad 11A yn y prif Reoliadau
7 

(1) Ar ôl rheoliad 11 (cardiau hawl) mewnosoder y canlynol—“
Ad-dalu ffioedd penodol a dalwyd o dan Reoliadau Ffioedd 2000
11A 

(1) Os cafodd ffi ei thalu o dan Reoliadau Ffioedd 2000, boed yn unol â'r Rheoliadau hyn ai peidio, gan neu ar ran person sydd, ar yr adeg pan dalwyd y ffi, yn berson—
(a) sy'n preswylio yng Nghymru; a
(b) sy'n derbyn gwasanaethau meddygol sylfaenol o dan Ran 4 o Ddeddf 2006 gan ddarparydd a gontractiwyd i ddarparu gwasanaethau o'r fath gyda Bwrdd Iechyd Lleol,
caniateir i gais am ad-dalu'r ffi honno gael ei wneud yn unol â pharagraff (2).
(2) Rhaid i gais am ad-daliad a wneir gan neu ar ran person a ddisgrifir ym mharagraff (1)—
(a) cael ei wneud yn y cyfryw ffurf a dull ag y caiff Gweinidogion Cymru eu penderfynu;
(b) cael ei wneud o fewn 3 mis o'r dyddiad y talwyd y ffi, neu o fewn y cyfryw gyfnod y caiff Gweinidogion Cymru, am reswm da, ei ganiatáu; ac
(c) cael derbynneb gydag ef am y ffi a dalwyd a datganiad fod y person, ar yr adeg y talwyd y ffi, yn berson a ddisgrifir ym mharagraff (1).”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Medi 2009