
2009 Rhif 2578 (Cy.209)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Tribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim a Phwyllgorau Safonau) (Diwygio) (Cymru) 2009
Gwnaed 19 Medi 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 25 Medi 2009
Yn dod i rym 19 Hydref 2009
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 73, 77(4) a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt, ac ar ôl ymgynghori â'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd yn unol â pharagraff 24 o Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfod 2007:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Tribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim a Phwyllgorau Safonau) (Diwygio) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 19 Hydref 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wrandawiad gan—
(a) tribiwnlys achos neu dribiwnlys achos interim o dan Reoliadau'r Tribiwnlys Achos; a
(b)  pwyllgor safonau o dan Reoliadau'r Pwyllgorau Safonau,
sy'n dechrau ar neu ar ôl 19 Hydref 2009.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Rheoliadau'r Pwyllgorau Safonau” (“the Standards Committees Regulations”)yw Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001;
 ystyr “Rheoliadau'r Tribiwnlysoedd Achos” (“the Case Tribunals Regulations”) yw Rheoliadau Dyfarniadau gan Dribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim (Cymru) 2001.
Diwygio Rheoliadau'r Pwyllgorau Safonau
3 
Diwygier Rheoliadau'r Pwyllgorau Safonau yn unol â rheoliad 4.
4 

(1) Yn rheoliad 4(4)(b), yn lle “gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “gan Weinidogion Cymru”.
(2) Yn lle rheoliad 8(2) a (3) rhodder—
(2) Mae paragraffau (3) i (3CH) yn gymwys—
(a) mewn cysylltiad ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn achos o ymchwiliad yr ymgymerir ag ef gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac a gyfeiriwyd at swyddog monitro'r awdurdod perthnasol o dan adran 71(2) o Ddeddf 2000; a
(b) mewn cysylltiad â swyddog monitro'r awdurdod perthnasol mewn achos o ymchwiliad a gyfeiriwyd at y swyddog monitro o dan adran 70(4) o Ddeddf 2000.
(3) Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a'r swyddog monitro yr hawl i fod yn bresennol gerbron y Pwyllgor Safonau at ddibenion—
(a) cyflwyno'r adroddiad a/neu esbonio unrhyw un neu unrhyw rai o'r materion sydd ynddo; a
(b) fel arall chwarae'r cyfryw ran neu gynorthwyo'r Pwyllgor Safonau ag y mae'r Pwyllgor Safonau yn ystyried ei bod yn briodol.
(3A) Caniateir i'r Pwyllgor Safonau wneud cais i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru neu'r swyddog monitro fod yn bresennol ger ei fron at ddibenion—
(a) cyflwyno'r adroddiad a/neu esbonio unrhyw un neu unrhyw rai o'r materion sydd ynddo; a
(b) fel arall chwarae'r cyfryw ran neu gynorthwyo'r Pwyllgor Safonau ag y mae'r Pwyllgor Safonau yn ystyried ei bod yn briodol.
(3B) Rhaid peidio â gwrthod yn afresymol gais a wneir o dan baragraff (3A) ac os gwrthodir cais o'r fath rhaid i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru neu'r swyddog monitro roi rhesymau ysgrifenedig i'r Pwyllgor Safonau am beidio â chydymffurfio â'r cais i fod yn bresennol.
(3C) Bydd y presenoldeb hwnnw'n digwydd pan fydd Pwyllgor Safonau awdurdod perthnasol yn ystyried unrhyw sylwadau a wnaed gan y person sy'n destun yr ymchwiliad neu, os na wnaed sylwadau o'r fath, ar unrhyw adeg resymol.
(3CH) Caniateir i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a'r swyddog monitro gael eu cynrychioli gan gwnsler neu gan gyfreithiwr.”.
(3) Yn rheoliad 10(2), yn lle “Yr Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ” rhodder—“
 Y Llywydd
 Panel Dyfarnu Cymru
 Llywodraeth Cynulliad Cymru
 Parc Cathays
 Caerdydd
 CF10 3NQ.”.
(4) Yn rheoliad 11(5), yn lle “ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “ymgynghori â Gweinidogion Cymru”.
Diwygio Rheoliadau'r Tribiwnlysoedd Achos
5 
Diwygier yr Atodlen i Reoliadau'r Tribiwnlysoedd Achos yn unol â rheoliad 6.
6 

(1) Ym mharagraff 1, hepgorer y geiriau “ystyr “swyddog ymchwilio” (“investigating officer”) yw person a gynhaliodd yr ymchwiliad a arweiniodd at y cyfeiriad at Banel Dyfarnu Cymru o dan adran 71(3) neu 72(4) o'r Ddeddf”.
(2) Yn lle paragraff 9 (presenoldeb swyddogion ymchwilio) rhodder—“
Presenoldeb Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
9 

(1) Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yr hawl i fod yn bresennol, a chaniateir i'r tribiwnlys wneud cais i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fod yn bresennol, mewn gwrandawiad dyfarnu at ddibenion—
(a) cyflwyno'r adroddiad a/neu esbonio unrhyw un neu unrhyw rai o'r materion sydd ynddo; a
(b) fel arall chwarae'r cyfryw ran neu gynorthwyo'r tribiwnlys yn y gwrandawiad ag y mae'r tribiwnlys yn ystyried ei bod yn briodol.
(2) Rhaid peidio â gwrthod yn afresymol gais a wneir o dan is-baragraff (1) ac os gwrthodir cais o'r fath rhaid i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru roi rhesymau ysgrifenedig i'r tribiwnlys am beidio â chydymffurfio â'r cais i fod yn bresennol mewn gwrandawiad.
(3) Caniateir i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gael ei gynrychioli gan gwnsler neu gyfreithiwr.”.
(3) Ym mharagraff 16(2)—
(a) hepgorer is-baragraff (b);
(b) yn is-baragraff (ch), ar ôl “ohono” mewnosoder “neu gynrychiolydd y swyddog monitro”.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
19 Medi 2009