
2009 Rhif 255 (Cy.27)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) (Diwygio) 2009
Gwnaed 9 Chwefror 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 11 Chwefror 2009
Yn dod i rym 7 Mawrth 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 45(1)(d), (9) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac a freiniwyd bellach ynddynt, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 7 Mawrth 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2009.
Eiddo y mae rhwymedigaeth i dalu arno ardrethi eiddo heb ei feddiannu
2 
Yn rheoliad 4(e) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) 2008 yn lle “£2,200” rhodder “£15,000”.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
9 Chwefror 2009