
2009 Rhif 2541 (Cy.205)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRUGOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Deddf Plant 1989, Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2009
Gwnaed 15 Medi 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 21 Medi 2009
Yn dod i rym 12 Hydref 2009
Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 68(1) a (2), 79C(2) a (3), 79M(1)(c) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989 a pharagraff 4 o Atodlen 9A iddi, adrannau 12(2)(a), 16(1)(a), 22(1), (2)(a), (b), (d) ac (e), 48(1)(a) ac 118(1), (6)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac adrannau 9(1), 10(1)(a), (3)(a) ac (e), 140(1) a (7) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002:
RHAN 1 Cyflwyniad
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Plant 1989, Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 12 Hydref 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
RHAN 2 Gwarchod plant a gofal dydd
Diwygio Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002
2 

(1) Mae Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4 (y person cofrestredig — ei addasrwydd)—
(a) yn lle paragraff 3(c) rhodder—“
(c) bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person—
(i) ac eithrio os yw paragraff (5) yn gymwys, mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2;
(ii) os yw paragraff (5) yn gymwys, mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1, 2 a 4 o Atodlen 2.”;
(b) hepgorer paragraff (4).
(3) Yn rheoliad 4B (y person â gofal — ei addasrwydd)—
(a) yn lle paragraff (3)(c) rhodder—“
(c) bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2.”;
(b) hepgorer paragraff (4).
(4) Yn rheoliad 16 (addasrwydd gweithwyr)—
(a) yn lle paragraff (2)(ch) rhodder—“
(ch) bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2.”;
(b) ym mharagraff (4)(b), yn lle'r geiriau “oni bai bod paragraff (5) yn gymwys” rhodder “oni bai bod paragraff (5) neu (5A) yn gymwys.”;
(c) yn lle paragraff (5)(b) rhodder—“
(b) y cafwyd gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw mewn cysylltiad â'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 2 o Atodlen 2.”.
(5) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio gweithredu fel gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd neu'n ceisio gweithio drostynt)—
(a) yn lle paragraff 2 rhodder—“
2 
Naill ai—
(a) os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 10A o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002 tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi”;
(b) hepgorer paragraffau 7 ac 8.
Diwygio Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004
3 

(1) Diwygier yr Atodlen i Reoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004 fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 3, yn lle “78C” rhodder “79C”
(3) Yn lle paragraff 33 rhodder—“
Cyfarwyddyd Deddf Addysg 2002
33 
Person sy'n ddarostyngedig i gyfarwyddyd a wnaed, neu y mae iddo effaith fel pe bai wedi'i wneud, o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002 ar y seiliau a osodir yn is-adran (4)(a), (b) neu (d) o'r adran honno.”
(4) Yn lle paragraff 34 rhodder—“
Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 rhestr waharddedig o ran plant
34 
Person sydd wedi'i wahardd rhag gweithgaredd a reoleiddir sy'n ymwneud â phlant (o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006”
RHAN 3 Sefydliadau ac asiantaethau — plant
Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005
4 

(1) Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (1) o reoliad 23 (gofyniad i wneud gwiriadau gyda'r heddlu) rhodder—“
(1) Mewn cysylltiad â'r darpar fabwysiadydd ac unrhyw aelod arall o aelwyd y darpar fabwysiadydd sy'n 18 oed neu drosodd, rhaid i asiantaeth fabwysiadu gael tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno).”.
Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005
5 

(1) Mae Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 2 o Atodlen 2 (yr wybodaeth y mae'n ofynnol ei chael am yr unigolyn cyfrifol neu am bersonau sy'n ceisio rheoli neu weithio at ddibenion asiantaeth) rhodder—“
2 
Naill ai—
(a) os yw'r dystysgrif yn ofynnol at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi.”.
Diwygiadau i Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002
6 

(1) Mae Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 6 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig)—
(a) Ym mharagraff (3)(c) rhodder—“
(c) bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 5 a 6 o Atodlen 2.”;
(b) hepgorer paragraff (4).
(3) Yn rheoliad 8 (ffitrwydd y rheolwr)—
(a) yn lle paragraff (2)(c) rhodder—“
(c) oni bai bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2.”
(b) yn lle paragraff (2E) rhodder—“
(2E) Ni fydd person yn ffit i reoli cartref plant onid yw wedi ei gofrestru'n rheolwr gyda Chyngor Gofal Cymru.”;
(c) hepgorer paragraff (3).
(4) Yn rheoliad 26 (ffitrwydd gweithwyr)—
(a) yn lle paragraff (2)(ch) rhodder—“
(ch) yn ddarostyngedig i baragraff (2G), bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2”
(b) ym mharagraff (4)(b), yn lle'r geiriau “oni bai bod paragraff (5) yn gymwys” rhodder “oni bai bod paragraff (5) neu (5A) yn gymwys.”;
(c) yn lle paragraff (5) (b) rhodder—“
(b) y cafwyd gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw mewn cysylltiad â'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 2 o Atodlen 2.”.
(5) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth y mae ei hangen mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio rhedeg neu reoli cartref plant neu weithio mewn un) —
(a) yn lle paragraff 2 rhodder—“
2 
Naill ai—
(a) os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) ac, os yw'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol safonol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi.”;
(b) hepgorer paragraffau 7 ac 8.
Diwygiadau i Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003
7 

(1) Mae Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 2 o Atodlen 1 (yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio rhedeg neu reoli gwasanaeth maethu neu weithio at ddibenion y gwasanaeth hwnnw) rhodder—“
2 
Naill ai—
(a) os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf 2000 neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno); neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.”.
(3) Yn lle paragraff 13 o Atodlen 3 ( gwybodaeth am ddarpar riant maeth ac aelodau eraill o aelwyd a theulu'r darpar riant maeth) rhodder—“
13 
Mewn cysylltiad â'r darpar riant maeth ac unrhyw aelod arall o aelwyd y darpar riant maeth sy'n 18 oed neu drosodd, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno).”.
Diwygiadau i Reoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007
8 

(1) Mae Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 2 o Atodlen 3 (gwybodaeth y mae ei hangen am bersonau sy'n gwneud cais am reoli neu weithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu) rhodder—“
2 
Naill ai—
(a) os oes angen y dystysgrif ar gyfer swydd sy'n dod o dan reoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi.”.
Diwygiadau i Reoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003
9 

(1) Mae Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig)—
(a) yn lle paragraff (3)(c) rhodder—“
(c) bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r unigolyn mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2.”;
(b) hepgorer paragraff (4)
(3) Yn rheoliad 7 (ffitrwydd y rheolwr)—
(a) yn lle paragraff (2)(c) rhodder—“
(c) bod gwybodaeth a dogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2.”
(b) hepgorer paragraff (3).
(4) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth y mae ei hangen mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio rhedeg neu reoli canolfan breswyl i deuluoedd neu weithio mewn un) —
(a) yn lle paragraff 2 rhodder—“
2 
Naill ai—
(a) os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) ac, os yw'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno); neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.”;
(b) hepgorer paragraff 7.
RHAN 4 Sefydliadau ac asiantaethau, gwasanaethau a chyfleusterau — gofal cymdeithasol ac iechyd oedolion
Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004
10 

(1) Mae Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion Cymru 2004 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 2 o Atodlen 3 (gwybodaeth a dogfennau sydd i fod ar gael mewn perthynas â gofalwyr lleoliadau oedolion, personau sy'n darparu gwasanaethau gofal at ddibenion lleoliad oedolion, personau sy'n darparu ac yn rheoli cynlluniau lleoli oedolion) rhodder—“
2 
Naill ai—
(a) os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno); neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.”.
Diwygiadau i Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002
11 

(1) Mae Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig)—
(a) yn lle paragraff (3)(c)(ii) rhodder—“
(ii) os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 6 o Atodlen 2;”;
(b) yn lle paragraff (3)(c)(iii) rhodder—“
(iii) ac ymhellach, pan fo paragraff (4) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).”;
(c) yn lle paragraff (4) rhodder—“
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys —
(a) pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi; a
(b) pan na fydd yr unigolyn yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei reoli sy'n ymwneud â phlant.”.
(3) Yn rheoliad 9 (ffitrwydd y rheolwr cofrestredig)—
(a) yn lle paragraff (2)(c)(ii) rhodder—“
(ii) pan fydd paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 6 o Atodlen 2.”;
(b) yn lle paragraff (2)(c)(iii) rhodder—“
(iii) ac ymhellach, pan fydd paragraff (3) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).”;
(c) yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys —
(a) pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi; a
(b) pan na fydd yr unigolyn yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei reoli sy'n ymwneud â phlant.”.
(4) Yn rheoliad 19 (ffitrwydd y gweithwyr)—
(a) yn lle paragraff (2)(ch)(ii) rhodder—“
(ii) pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 6 o'r Atodlen honno;”;
(b) ar ôl paragraff (2)(ch)(ii) mewnosoder—“
(iii) ac ymhellach, pan fydd paragraff (3) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).”;
(c) yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys —
(i) pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi; a
(ii) pan na fydd yr unigolyn yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei reoli sy'n ymwneud â phlant.”;
(ch) yn lle paragraff (5)(b)(iii) rhodder—“
(iii) pan fydd paragraff (3) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).”;
(d) ar ôl paragraff (5A)(b) mewnosoder—“
(ba) bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno);”;
(dd) hepgorer is-baragraff (6).
(5) Yn lle paragraff (5) o reoliad 43 (marwolaeth person cofrestredig) rhodder—“
(5) Rhaid i'r cynrychiolwyr personol benodi person i reoli'r cartref gofal yn ystod unrhyw gyfnod pan fyddant, yn unol â pharagraff (3), yn rhedeg y cartref gofal heb fod wedi eu cofrestru mewn cysylltiad ag ef.”.
(6) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth a'r dogfennau sydd i fod ar gael mewn perthynas â phersonau sy'n rhedeg neu reoli cartrefi gofal neu weithio ynddynt)—
(a) yn lle paragraff 2 rhodder—“
2 
Naill ai—
(a) os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) ac, os yw'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno); neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.”;
(b) hepgorer paragraffau 7 ac 8.
Diwygiadau i Reoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004
12 

(1) Mae Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â darparwyr a rheolwyr cofrestredig asiantaeth a phersonau sydd wedi'u henwi i ddirprwyo ar gyfer person cofrestredig)
(a) yn lle paragraff 3 rhodder—“
3 
Naill ai—
(a) os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) ac, os yw'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno); neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.”;
(b) hepgorer paragraff 11.
(3) Yn Atodlen 3 (yr wybodaeth a'r ddogfennaeth sydd i fod ar gael mewn perthynas â gweithwyr gofal cartref) —
(a) yn lle paragraff 4 rhodder—“
4 
Naill ai—
(a) os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) ac, os yw'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno); neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.”;
(b) hepgorer paragraff 13.
Diwygiadau i Reoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003
13 

(1) Mae Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru)2003 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig)—
(a) yn lle paragraff (3)(c)(ii) rhodder—“
(ii) os yw paragraff (4) yn gymwys, am bob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 8 o Atodlen 2;”;
(b) ar ôl paragraff (3)(c)(ii) mewnosoder—“
(iii) ac ymhellach, os yw paragraff (4) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).”;
(c) yn lle paragraff (4) rhodder—“
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys —
(a) pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi; a
(b) pan na fydd yr unigolyn yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei reoli sy'n ymwneud â phlant.”.
(3) Yn rheoliad 9 (ffitrwydd y rheolwr)—
(a) yn lle paragraff (2)(c)(ii) rhodder—“
(ii) os yw paragraff (3) yn gymwys, am bob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 8 o Atodlen 2;”;
(b) ar ôl paragraff (2)(c)(ii) mewnosoder—“
(iii) ac ymhellach, os yw paragraff (3) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).”;
(c) yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys —
(a) pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi; a
(b) pan na fydd yr unigolyn yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei reoli sy'n ymwneud â phlant.”.
(4) Yn rheoliad 12 (ffitrwydd y nyrsys sy'n cael eu cyflenwi gan asiantaeth)—
(a) yn lle paragraff (1)(ch)(ii) rhodder—“
(ii) os yw paragraff (3) yn gymwys, am bob mater a bennir ym mharagraffau 1 i 3 a 6 i 13 o Atodlen 3;”;
(b) ym mharagraff (1)(ch) mewnosoder ar ôl paragraff (1)(ch)(ii)—“
(iii) ac ymhellach, os yw paragraff (3) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).”;
(c) yn lle paragraff (2)(ii) rhodder—“
(ii) os yw paragraff (3) yn gymwys, am bob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 8 o Atodlen 2;”;
(ch) ar ôl paragraff (2)(ii) mewnosoder—“
(iii) ac ymhellach, os yw paragraff (3) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).”;
(d) yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys —
(a) pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi; a
(b) pan na fydd yr unigolyn yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei reoli sy'n ymwneud â phlant.”.
(5) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â darparwyr a rheolwyr cofrestredig asiantaeth a nyrsys sy'n gyfrifol am ddewis nyrsys i'w cyflenwi i ddefnyddwyr gwasanaeth)—
(a) yn lle paragraff 2 rhodder—“
2 
Naill ai—
(a) os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys, fel y bo'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) neu wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) neu'r ddwy; neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.”;
(b) hepgorer paragraffau 9 ac 10.
(6) Yn Atodlen 3 (yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â nyrsys sydd i'w cyflenwi gan asiantaeth)—
(a) yn lle paragraff 4 rhodder—“
4 
Naill ai—
(a) os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys, fel y bo'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) neu wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno neu'r ddwy; neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.”;
(b) hepgorer paragraffau 5 ac 14.
Diwygiadau i Reoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002
14 

(1) Mae Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 9 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig)—
(a) yn lle paragraff (3)(c)(ii) rhodder—“
(ii) os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2;”.
(b) yn lle paragraff (3)(c)(iii) rhodder—“
(iii) ac ymhellach, pan fo paragraff (4) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).”;
(c) yn lle paragraff (4) rhodder—“
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys —
(a) pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi; a
(b) pan na fydd yr unigolyn yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei reoli sy'n ymwneud â phlant.”.
(3) Yn rheoliad 11 (ffitrwydd y rheolwr)—
(a) yn lle paragraff (2)(c)(ii) rhodder—“
(ii) os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2;”;
(b) yn lle paragraff (2)(c)(iii) rhodder—“
(iii) ac ymhellach, os yw paragraff (3) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).”;
(c) yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys —
(a) pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi; a
(b) pan na fydd yr unigolyn yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei reoli sy'n ymwneud â phlant.”
(4) Yn rheoliad 18 (ffitrwydd y gweithwyr)—
(a) yn lle paragraff (2)(ch)(ii) rhodder—“
(ii) os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2;”;
(b) ar ôl paragraff (2)(ch)(ii) mewnosoder—“
(iii) ac ymhellach, os yw paragraff (3) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).”;
(c) yn lle paragraff (3), rhodder—“
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys —
(i) pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi; a
(ii) pan na fydd yr unigolyn yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei reoli sy'n ymwneud â phlant.”;
(ch) ym mharagraff (4)(b) yn lle'r geiriau “oni bai bod paragraff (5) yn gymwys” rhodder “oni bai bod paragraff (5) neu (5A) yn gymwys”;
(d) yn lle paragraff (5)(b)(iii) rhodder—“
(iii) os yw paragraff (3) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).”;
(dd) ym mharagraff (5A) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—“
(ba) bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno);”.
(5) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â phersonau sydd am redeg neu reoli sefydliad neu weithio ynddo) —
(a) yn lle paragraff 2 rhodder—“
2 
Naill ai—
(a) os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 sy'n cynnwys, fel y bo'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) neu wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) neu'r ddwy, ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi.”;
(b) hepgorer paragraffau 8 ac 9 .
Diwygiadau i Reoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2008
15 

(1) Mae Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2008 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (2)(g) o reoliad 5 (gwybodaeth a dogfennau sydd i'w darparu gan geisydd) rhodder—“
(g) tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 sy'n cynnwys, fel y bo'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) neu wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) neu'r ddwy, ac y cydlofnodwyd y cais amdani ar ran yr awdurdod cofrestru;”.
(3) Yn lle paragraff (4) o reoliad 13 (ffitrwydd person cofrestredig) rhodder—“
(4) Caiff yr awdurdod cofrestru ei gwneud yn ofynnol ar unrhyw adeg i'r person cofrestredig wneud cais am dystysgrif cofnod troseddol fanwl wedi ei dyroddi o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 sy'n cynnwys, fel y bo'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) neu wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) neu'r ddwy, a rhaid i'r cyfryw gais gael ei gydlofnodi ar ran yr awdurdod cofrestru.”.
(4) Yn lle paragraff 2 o Atodlen 2 (gwybodaeth a dogfennau a fydd ar gael ynghylch personau cofrestredig) rhodder—“
2 
Tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 sy'n cynnwys, fel y bo'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) neu wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) neu'r ddwy, ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi.”
RHAN 5 Cyffredinol
Diwygiadau i Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002
16 

(1) Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 (y dogfennau i'w cyflenwi wrth i berson wneud cais am gael ei gofrestru'n berson sy'n rhedeg sefydliad neu asiantaeth)—
(a) yn lle paragraff 4 rhodder—“
4 
In relation to the responsible person—
(a) an enhanced criminal record certificate issued under section 113B of the Police Act 1997 which includes, as applicable, suitability information in relation to vulnerable adults (within the meaning of section 113BB (2) of that Act) or suitability information relating to children (within the meaning of section 113BB (2) of that Act) or both; and
(b) the application for that certificate which was countersigned by the Welsh Ministers.”
(b) yn lle paragraff 9A rhodder—
“9A 
Notwithstanding paragraph 4, where the responsible person has applied for a certificate referred to in paragraph 4, but the certificate has not been issued and the responsible person will not be engaging in regulated activity related to children—
(a) a statement confirming that the documents specified in paragraph 4 have been applied for and that the applicant, or where the applicant is an organisation, the responsible individual, will advise the Welsh Ministers on receipt that they are available for inspection; and
(b) notification under section 113E (4) (a) of the Police Act 1997 that the individual is not included on a specified adults' list (within the meaning of section 113E of that Act)
(c) yn lle paragraff 10(2) rhodder—“
(2) The following documents are specified—
(a) where the position falls within regulation 5A of the Police Act 1997 (Criminal Records) Regulations 2002, an enhanced criminal record certificate issued under section 113B of the Police Act 1997 which includes, as applicable, suitability information relating to vulnerable adults (within the meaning of section 112BB (2)of that Act) or suitability information relating to children (within the meaning of section 113BA (2) of that Act) or both; or
(b) in any other case, a criminal record certificate issued under section 113A of the Police Act 1997;”.
(3) Yn Atodlen 3 (yr wybodaeth a'r dogfennau i'w cyflenwi wrth i berson wneud cais am gael ei gofrestru'n rheolwr sefydliad neu asiantaeth)—
(a) hepgorer paragraff 12.
(b) yn lle paragraff 13, rhodder—“
13 

(1) An enhanced criminal record certificate issued under section 113B of the Police Act 1997 which includes, as applicable, suitability information in relation to vulnerable adults (within the meaning of section 113BB (2) of that Act) or suitability information relating to children (within the meaning of section 113BB (2) of that Act) or both; and
(2) the application for that certificate which was countersigned by the Welsh Ministers.”
(c) yn lle paragraff 13A rhodder—“
(13A) Notwithstanding paragraph 13, where the responsible person has applied for a certificate referred to in paragraph 13, but the certificate has not been issued and the responsible person will not be engaging in regulated activity related to children—
(a) a statement confirming that the documents specified in paragraph 13 have been applied for and that the applicant, or where the applicant is an organisation, the responsible individual, will advise the Welsh Ministers on receipt that they are available for inspection; and
(b) notification under section 113E (4) (a) of the Police Act 1997 that the individual is not included on a specified adults' list (within the meaning of section 113E of that Act).”.
(4) Yn Atodlen 8 (y dogfennau i'w cyflenwi wrth i berson wneud cais am gael ei gofrestru'n warchodwr plant neu'n ddarparydd gofal dydd)—
(a) yn lle paragraff 4 rhodder—“
4 
In relation to the responsible person and the person in charge—
(a) an enhanced criminal record certificate issued under section 113B of the Police Act 1997 which includes suitability information in relation to children (within the meaning of section 113BA (2) of that Act);
(b) the application for that certificate which was countersigned by the Welsh Ministers.”;
(b) hepgorer paragraff 9.
(c) yn lle paragraff 10(2) rhodder—“
(2) The following documents are specified—
(a) where the position falls within regulation 5A of the Police Act 1997 (Criminal Records) Regulations 2002, an enhanced criminal record certificate issued under section 113B of the Police Act 1997 which includes suitability information relating to children (within the meaning of section 113BA (2) of that Act); or
(b) in any other case, a criminal record certificate issued under section 113A of the Police Act 1997.”.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
15 Medi 2009