
2009 Rhif 2540 (Cy.204) (C.106)
CYFRAITH TROSEDD, CYMRU
Gorchymyn Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2009
Gwnaed 15 Medi 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 53(6) o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2009.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Cychwyn
2 
Mae darpariaethau canlynol Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006, i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru, yn dod i rym ar 1 Hydref 2009—
(a) adran 19 (craffu gan awdurdod lleol ar faterion trosedd ac anhrefn);
(b) adran 20 (canllawiau a rheoliadau mewn perthynas â materion trosedd ac anhrefn); ac
(c) Atodlen 8 (darpariaeth bellach ynghylch pwyllgorau trosedd ac anhrefn awdurdodau lleol penodol).
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
15 Medi 2009