
2009 Rhif 2470 (Cy.199)
ANIFEILIAID, CYMRU
Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2009
Gwnaed 7 Medi 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Medi 2009
Yn dod i rym 1 Hydref 2009

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a chan baragraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru yn hwylus bod y cyfeiriad yn rheoliad 2 at Reoliad y Comisiwn yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
RHAN 1 Cyflwyniad
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2009.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr “ceffyl” (“horse”) yw anifail carngaled, gwyllt neu ddof, o fewn y genws Equus o'r teulu Equidae, a chroesiadau rhwng anifeiliaid o'r fath;
(b) ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas ag ardal yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno; ac
(c) ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 504/2008 (sy'n gweithredu Cyfarwyddebau y Cyngor 90/426/EEC a 90/427/EEC mewn perthynas â dulliau ar gyfer adnabod equidae).
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad y Comisiwn yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
(3) Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad y Comisiwn yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn Rheoliad y Comisiwn.
(4) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Erthygl â Rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sydd â'r Rhif hwnnw yn Rheoliad y Comisiwn.
RHAN 2 Gorfodi Rheoliad y Comisiwn
Awdurdod cymwys ar gyfer Rheoliad y Comisiwn
3 
Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad y Comisiwn.
Gwerthu ceffylau
4 

(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n gwerthu ceffyl roi dogfen adnabod y ceffyl i'r prynwr ar adeg y gwerthu.
(2) Rhaid i'r prynwr, o fewn 30 diwrnod ar ôl prynu, ddychwelyd y ddogfen adnabod ar gyfer y ceffyl hwnnw at y corff dyroddi, gan hysbysu'r corff hwnnw o enw a chyfeiriad y prynwr.
(3) Yn y rheoliad hwn mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys unrhyw drosglwyddiad perchnogaeth.
(4) Mae peidio â chydymffurfio â'r rheoliad hwn yn dramgwydd.
Adnabod ceffylau o fewn terfynau amser
5 

(1) Rhaid i berchennog ceffyl neu, os yw'n wahanol, y ceidwad sy'n bennaf cyfrifol am y ceffyl, gydymffurfio ag Erthygl 3(1).
(2) Mae peidio â chydymffurfio â pharagraff (1) yn dramgwydd.
(3) Yn unol ag Erthygl 5(5)—
(a) perchennog yn unig a gaiff wneud cais am ddogfen adnabod, a
(b) rhaid i'r perchennog wneud cais am ddogfen adnabod o fewn y terfynau amser a bennir yn Erthygl 5, ac y mae peidio â gwneud felly yn dramgwydd.
(4) Os ceir cais am ddogfen adnabod y tu allan i'r terfynau amser, rhaid i'r corff dyroddi stampio'r ddogfen adnabod i'r perwyl na fwriedir y ceffyl i'w gigydda ar gyfer ei fwyta gan bobl.
Gwneud cais am ddogfennau adnabod: dogfennau dyblyg a dogfennau amnewid
6 
Mae unrhyw berson sy'n gwneud cais am ddogfen adnabod yn ddogfen ddyblyg neu'n ddogfen amnewid yn groes i Erthygl 5(8) yn euog o dramgwydd.
Mewnforio
7 
Os yw perchennog ceffyl—
(a) yn peidio â chydymffurfio ag Erthygl 8(1) (adnabod equidae a fewnforir), neu
(b) yn peidio â gofyn, o fewn 30 diwrnod, i gorff dyroddi weithredu yn unol ag Erthygl 8(2) (darparu gwybodaeth ychwanegol),mae'n euog o dramgwydd.
Canfod marcio gweithredol blaenorol mewn ceffylau
8 
Rhaid i filfeddyg sy'n mewnblannu trawsatebydd mewn ceffyl gyflawni'r gweithdrefnau a bennir yn Erthygl 10(1) (mesurau i ganfod marcio gweithredol blaenorol), ac y mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.
Trawsatebyddion
9 

(1) Rhaid i gorff dyroddi gydymffurfio ag Erthygl 11(1) (mewnblannu trawsatebydd).
(2) At ddibenion Erthygl 11, y cymhwyster gofynnol ar gyfer mewnblannu trawsatebydd yw, o leiaf, aelodaeth o Goleg Brenhinol y Milfeddygon.
(3) Mae peidio â chydymffurfio â'r rheoliad hwn yn dramgwydd.
Cyfyngu ar symud ceffylau heb ddogfen adnabod
10 

(1) Rhaid i berchennog ceffyl neu, os yw'n wahanol, y ceidwad sy'n bennaf cyfrifol am y ceffyl, gydymffurfio ag—
(a) Erthygl 13(1) (symud a chludo),
(b) Erthygl 14(1) (rhanddirymiad ar gyfer cardiau call), neu
(c) Erthygl 14(3) (dogfennau dros dro).
(2) Rhaid i fformat cerdyn call gael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn, a rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag awdurdodi cerdyn call oni fyddant wedi eu bodloni y bydd y cerdyn yn gweithredu'n effeithiol.
(3) Mae peidio â chydymffurfio â pharagraff (1) yn dramgwydd.
Symud ar gyfer cigydda
11 
Rhaid i berchennog ceffyl neu, os yw'n wahanol, y ceidwad sy'n bennaf cyfrifol am y ceffyl, gydymffurfio ag Erthygl 15(1) (symud ar gyfer cigydda), ac y mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.
Dyroddi dogfennau adnabod: dogfennau dyblyg a dogfennau amnewid
12 

(1) Pan fo corff dyroddi yn dyroddi dogfen adnabod yn ddogfen ddyblyg, rhaid iddo naill ai stampio'r ddogfen adnabod i'r perwyl ei bod yn ddogfen ddyblyg, neu ddosbarthu'r anifail fel un na fwriedir i'w gigydda ar gyfer ei fwyta gan bobl, yn unol ag Erthygl 16(1).
(2) Ni cheir gweithredu'r rhanddirymiad yn Erthygl 16(2) o Reoliad y Comisiwn.
(3) Pan fo corff dyroddi yn dyroddi dogfen adnabod yn ddogfen amnewid, rhaid iddo wneud hynny yn unol ag Erthygl 17 (dyroddi dogfennau amnewid).
(4) Mae peidio â chydymffurfio â'r rheoliad hwn yn dramgwydd.
Dychwelyd dogfen adnabod ar farwolaeth ceffyl
13 

(1) Pan fo ceffyl wedi ei gigydda neu wedi ei ladd at y dibenion o reoli clefyd, rhaid i'r milfeddyg swyddogol sy'n gyfrifol am y cigydda neu'r lladd ddychwelyd y ddogfen adnabod at y corff dyroddi, yn unol ag Erthygl 19(2)(a)(i), cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(2) Pan fo ceffyl wedi ei gigydda i'w fwyta gan bobl, rhaid i feddiannydd y lladd-dy, yn unol ag Erthygl 19(2)(a)(ii), roi'r ddogfen adnabod i'r milfeddyg swyddogol yn y lladd-dy, a rhaid i'r milfeddyg—
(a) gofnodi Rhif adnabod yr anifail;
(b) marcio'r ddogfen adnabod yn briodol; ac
(c) anfon y ddogfen adnabod ar ôl ei marcio, at y corff dyroddi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(3) Mewn unrhyw achos arall, er gwaethaf Erthygl 19(2)(b), rhaid i berchennog ceffyl neu, os yw'n wahanol, y ceidwad, ddychwelyd y ddogfen adnabod at y corff dyroddi o fewn 30 diwrnod ar ôl marwolaeth y ceffyl.
(4) Dychweliad y ddogfen adnabod o dan y rheoliad hwn yw'r ardystiad sy'n ofynnol o dan Erthygl 19(1)(c).
(5) Mae peidio â chydymffurfio â'r rheoliad hwn yn dramgwydd.
Gweithdrefn y corff dyroddi ar farwolaeth ceffyl
14 
Ar ôl cael ardystiad a ddychwelwyd yn unol ag Erthygl 19(1) rhaid i gorff dyroddi—
(a) ddirymu'r ddogfen adnabod;
(b) sicrhau na ellir ailddefnyddio Rhif y microsglodyn; ac
(c) dinistrio'r ddogfen adnabod a ddirymwyd.
Triniaeth a ganiateir i geffylau a fwriedir i'w bwyta gan bobl
15 

(1) Rhaid i filfeddyg gydymffurfio ag Erthygl 20.
(2) Rhaid i filfeddyg gofnodi mewn dogfen adnabod y manylion sy'n ofynnol o dan baragraffau 4 (Cofnod brechu), 5 (Profion iechyd labordy) a 7 (Rhoi cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol) o Ran A o Ran II (Gwybodaeth a ddangosir ar basbort) o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn.
(3) Mae peidio â chydymffurfio â'r rheoliad hwn yn dramgwydd.
Cronfeydd data
16 

(1) Mae corff dyroddi sy'n peidio â chydymffurfio ag Erthygl 21 (cofnodion mewn cronfa ddata) yn euog o dramgwydd.
(2) At ddibenion Erthygl 21(3), rhaid trosglwyddo'r wybodaeth i'r gronfa ddata ganolog yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r corff dyroddi gan Weinidogion Cymru.
Gwaharddiadau
17 
Mae'n dramgwydd i berson—
(a) dinistrio neu ddifwyno dogfen adnabod;
(b) newid unrhyw gofnod mewn dogfen adnabod;
(c) gwneud cofnod ffug mewn dogfen adnabod;
(ch) gwneud dogfen adnabod ffug;
(d) bod â dogfen adnabod ffug yn ei feddiant, gan wybod hynny; neu
(dd) darparu unrhyw wybodaeth mewn cais am ddogfen adnabod gan wybod bod yr wybodaeth honno'n ffug neu'n gamarweiniol.
Ceffylau penodol sy'n byw ar diroedd comin penodedig
18 

(1) Arferir y rhan ddirymiad yn Erthygl 7.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, “ardaloedd dynodedig” (“designated areas”) yw ardaloedd, yr hysbysir y Comisiwn ohonynt gan Weinidogion Cymru erbyn 1 Hydref 2009, sy'n cynnwys poblogaethau diffiniedig o geffylau yn byw o dan amodau gwyllt neu led wyllt, nad yw'n ofynnol eu hadnabod drwy gyfrwng dogfennau adnabod tra arhosant o fewn yr ardal ddynodedig.
(3) Os yw ceffyl nad oes dogfen adnabod ar ei gyfer mewn ardal ddynodedig, yn cael ei drin ag unrhyw gynnyrch meddyginiaethol milfeddygol rhaid i'w berchennog sicrhau bod y ceffyl yn cael ei adnabod yn llawn ac y gosodir microsglodyn ynddo yn unol â Rheoliad y Comisiwn o fewn 30 diwrnod ar ôl y driniaeth, ac y mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.
(4) Mae'n dramgwydd symud ceffyl nad oes dogfen adnabod ar ei gyfer allan o'r ardal ddynodedig, onid yw'r ceffyl wedi ei farcio â sticer a ddyroddir gan gorff dyroddi, ac sy'n dwyn y dyddiad y'i gosodir ar y ceffyl ynghyd â Rhif adnabod unigryw.
(5) Ac eithrio pan fo'r ceffyl yn iau na 12 mis oed ac yn cael ei gymryd i'w gigydda ar gyfer ei fwyta gan bobl, rhaid i gais am rif adnabod fynd gyda'r ceffyl hefyd, a rhaid i'r cais gynnwys silwét o'r ceffyl a Rhif y sticer adnabod.
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), rhaid i'r perchennog wneud cais am ddogfen adnabod ar gyfer ceffyl o fewn 30 diwrnod ar ôl ymadawiad y ceffyl o'r ardal ddynodedig, ac y mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.
(7) Nid yw paragraff (6) yn gymwys yn achos ceffyl a gymerir i ladd-dy i'w gigydda ar gyfer ei fwyta gan bobl, ond mae'n dramgwydd cigydda ceffyl o'r fath ar ôl cyfnod hwy na 7 diwrnod ar ôl y dyddiad sydd ar y sticer adnabod.
RHAN 3 Pwerau a chosbau
Gorfodi
19 

(1) Gorfodir y Rheoliadau hyn gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, bod rhaid i ddyletswydd orfodi a osodir ar yr awdurdod lleol o dan y rheoliad hwn gael ei chyflawni gan Weinidogion Cymru ac nid gan yr awdurdod lleol.
Pwerau arolygwyr
20 

(1) Caiff arolygydd, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, awdurdodiad a ddilyswyd yn briodol, fynd i mewn i unrhyw fangre (ac eithrio unrhyw fangre nad oes ceffyl ynddi ac a ddefnyddir yn unig fel annedd) ar unrhyw adeg resymol er mwyn gweinyddu a gorfodi'r Rheoliadau hyn, ac yn y rheoliad hwn mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw gerbyd neu gynhwysydd.
(2) Caiff arolygydd gyflawni'r holl wiriadau ac archwiliadau sy'n angenrheidiol er mwyn gorfodi'r Rheoliadau hyn, ac yn benodol—
(a) mynnu bod dogfen adnabod yn cael ei dangos, a marcio'r ddogfen fel y bo angen;
(b) mynnu bod unrhyw geffyl yn cael ei ddangos, a marcio'r ceffyl at ddibenion adnabod, fel y bo angen;
(c) cynnal unrhyw ymholiadau;
(ch) cael mynediad at unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ym mha bynnag ffurf y'u cedwir) sy'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn, eu harchwilio a'u copïo a'u cludo ymaith i'w copïo;
(d) archwilio a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â dogfennau neu gofnodion sy'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn; ac
(dd) pan gedwir cofnod gan ddefnyddio cyfrifiadur, mynnu bod y cofnod yn cael ei ddarparu mewn ffurf sy'n caniatáu ei gludo ymaith.
(3) Pan fo arolygydd wedi mynd i mewn i unrhyw fangre ac nad yw'n rhesymol ymarferol penderfynu a yw dogfennau yn y fangre honno yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn, caiff yr arolygydd ymafael yn y dogfennau hynny er mwyn penderfynu a ydynt yn berthnasol ai peidio.
(4) Caiff yr arolygydd fynd gydag—
(a) unrhyw bersonau eraill a ystyrir gan yr arolygydd yn angenrheidiol, a
(b) unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd sy'n gweithredu at y diben o orfodi ymrwymiad Cymunedol.
(5) Mae'n dramgwydd difwyno, difodi neu dynnu ymaith unrhyw farc a osodir o dan y rheoliad hwn ac eithrio o dan awdurdod ysgrifenedig arolygydd.
(6) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 21, ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodwyd fel y cyfryw gan awdurdod lleol neu gan Weinidogion Cymru ar gyfer gorfodi'r Rheoliadau hyn neu o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981.
Rhwystro
21 
Mae'n dramgwydd—
(a) rhwystro yn fwriadol arolygydd sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith;
(b) heb esgus rhesymol, peidio â rhoi i arolygydd, sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith, unrhyw gymorth neu wybodaeth a fynnir yn rhesymol gan yr arolygydd hwnnw o dan y Rheoliadau hyn;
(c) rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw wybodaeth gan wybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol; neu
(ch) peidio â dangos ceffyl, dogfen, cofnod, neu ddogfen adnabod pan ofynnir amdano neu amdani, i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith.
Cosbau
22 
Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored—
(a) o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, neu
(b) o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.
Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
23 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac y profir bod y tramgwydd hwnnw—
(a) wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog y corff corfforaethol, neu
(b) y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog y corff corfforaethol.
(2) Mae'r swyddog, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i'w erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr “swyddog” (“officer”) yw—
(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson cyffelyb arall o'r corff corfforaethol, neu
(b) unrhyw berson sy'n honni ei fod yn gweithredu mewn swyddogaeth o'r fath.
(4) Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad â gweithredoedd a diffygion aelod ynglŷn â'i swyddogaethau rheoli, fel pe bai'r aelod yn swyddog y corff corfforaethol.
Tramgwyddau gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig
24 

(1) Ceir dwyn achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, yr honnir ei fod wedi ei gyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig, yn enw'r bartneriaeth neu'r gymdeithas honno.
(2) At ddibenion achosion o'r fath—
(a) mae'r rheolau llys ynglŷn â chyflwyno dogfennau i gael effaith fel pe bai'r bartneriaeth neu'r gymdeithas yn gorff corfforaethol;
(b) mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 yn gymwys mewn perthynas â'r bartneriaeth neu'r gymdeithas fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforaethol.
(3) Rhaid talu unrhyw ddirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas, a gollfernir am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, allan o gronfeydd y bartneriaeth neu'r gymdeithas honno.
(4) Mae paragraff (5) yn gymwys pan brofir bod tramgwydd a gyflawnwyd gan bartneriaeth o dan y Rheoliadau hyn—
(a) wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu
(b) y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner.
(5) Mae'r partner, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i'w erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(6) Mae paragraff (7) yn gymwys pan brofir bod tramgwydd a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig o dan y Rheoliadau hyn—
(a) wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog y gymdeithas, neu
(b) y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog y gymdeithas.
(7) Mae'r swyddog, yn ogystal â'r gymdeithas, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i'w erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(8) Yn y rheoliad hwn, ystyr “swyddog” (“officer”) yw—
(a) un o swyddogion y gymdeithas neu aelod o'i chorff llywodraethu, neu
(b) person sy'n honni ei fod yn gweithredu mewn swyddogaeth o'r fath.
(9) Yn y rheoliad hwn, mae “partner” (“partner”) yn cynnwys person sy'n honni ei fod yn gweithredu fel partner.
Dirymiadau
25 
Dirymir Rheoliadau Pasbortau Ceffylau (Cymru) 2005.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
7 Medi 2009