
2009 Rhif 2427 (Cy.197)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2009
Gwnaed 6 Medi 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Medi 2009
Yn dod i rym 28 Medi 2009

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy gan adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a chyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau penodol at ddarpariaethau mewn offerynnau Cymunedol gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2009. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 28 Medi 2009.
Diwygio
2 
Yn rheoliad 2 (Dehongli) o Reoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2008 yn lle'r diffiniad o “samplau rheoli swyddogol” rhodder y diffiniad canlynol—“
 ystyr “samplau rheoli swyddogol” (“official control samples”) yw samplau a gymerir gan Weinidogion Cymru o dan unrhyw un o'r canlynol—
(a) pwynt 2.1.2.2 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau bridio o Gallus gallus ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003, fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd;
(b) pwynt 2.1 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau dodwy o Gallus gallus ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1003/2005, fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd; neu
(c) pwynt 1(b) ac (c) o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 646/2007 sy'n gweithredu Rheoliad 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau o frwyliaid Gallus gallus ac yn diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1091/2005, fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
6 Medi 2009