
2009 Rhif 2201 (Cy.186)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Meini Prawf Purdeb ar gyfer Lliwiau, Melysyddion ac Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Cymru) (Diwygio) 2009
Gwnaed 13 Awst 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 14 Awst 2009
Yn dod i rym 7 Medi 2009

Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac 17(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i'r cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi, Cychwyn a Chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Meini Prawf Purdeb ar gyfer Lliwiau, Melysyddion ac Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 7 Medi 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio'r Rheoliadau Meini Prawf Purdeb ar gyfer Lliwiau, Melysyddion ac Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Cymru) 2009
2 

(1) Diwygir y Rheoliadau Meini Prawf Purdeb ar gyfer Lliwiau, Melysyddion ac Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Cymru) 2009 fel a ganlyn.
(2) Yn nhestun Cymraeg rheoliad 3(2)(a) yn lle “Directive 95/45/EC” rhodder “Directive 95/31/EC”.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
13 Awst 2009