
2009 Rhif 2161 (Cy.184)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio Rhif 2) 2009
Gwnaed 3 Awst 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 6 Awst 2009
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 6, 14(3) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a pharagraff 1(1) a (4) o Atodlen 2 iddi ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy, ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru'n unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio Rhif 2) 2009.
(2) Daw'r rheoliad hwn a rheoliad 2 i rym ar 7 Medi 2009.
(3) Daw rheoliad 3 i rym ar 12 Hydref 2009.
Dirymu
2 
Dirymir rheoliad 2 o Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2009.
Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001
3 
Diwygir Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001 drwy ychwanegu'r canlynol ar ôl rheoliad 9(1)(b)—“
 ; neu
(c)  bod y Bwrdd Gwahardd Annibynnol, a sefydlwyd o dan adran 1 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, wedi cynnwys, neu'n ystyried p'un ai i gynnwys, athro cofrestredig neu athrawes gofrestredig yn y naill neu'r llall o'r rhestrau o'r gwaharddedig a gedwir o dan adran 2 o'r Ddeddf honno.”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
3 Awst 2009