
2009 Rhif 2157 (Cy.181)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2009
Gwnaed 1 Awst 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 4 Awst 2009
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2009.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Medi 2009.
(3) Mae rheoliadau 8 a 9 yn dod i rym ar 31 Awst 2009.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008; ac
 ystyr “y Rheoliadau Diwygio” (“the Amendment Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008.
Diwygio'r Prif Reoliadau
3 
Mae'r Prif Reoliadau wedi'u diwygio'n unol â Rheoliadau 4 i 7.
4 
Yn rheoliad 18(3), yn lle “27,115 ewro” rhodder “28,200 ewro”.
5 
Yn rheoliad 19(3), yn lle “11,090 ewro” rhodder “13,450 ewro”.
6 
Yn rheoliad 20(3)—
(a) yn lle “A yw £2,402” rhodder “A yw £2,463”; a
(b) yn lle “mae B yn £49”, rhodder “mae B yn £50”.
7 
Yn rheoliad 20(5), yn lle “B yw £99”, rhodder “B yw £102”.
Diwygio'r Rheoliadau Diwygio
8 
Mae'r Rheoliadau Diwygio wedi'u diwygio'n unol â rheoliad 9.
9 
Yn nhestun Cymraeg rheoliad 7(2), yn lle “17,640 ewro”, rhodder “18,099 ewro”.
Jane E. Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
1 Awst 2009