
2009 Rhif 2156 (Cy.180)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2009
Gwnaed 1 Awst 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 4 Awst 2009
Yn dod i rym 31 Awst 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2009.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Awst 2009 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygiadau
2 
Diwygir Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2008 yn unol â rheoliadau 3 i 12.
3 
Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “Cyngor Ymchwil” (“Research Council”), yn lle “Cyngor Ymchwil Ffiseg Ronynnol a Seryddiaeth”, rhodder “Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg”.
4 
Yn nhestun Cymraeg rheoliad 3(9), yn lle “1 Medi 2008” rhodder “1 Medi 2009”.
5 
Yn rheoliad 5(2) yn lle “paragraff 6 neu 7” rhodder “paragraff 7 neu 8”.
6 
Yn rheoliad 6(16)(h), yn lle “1 Medi 2007”, rhodder “1 Medi 2009”.
7 
Yn nhestun Cymraeg rheoliad 10(2)(b), yn lle “21(6) neu 21(8)” rhodder “21(3) neu 21(7)”.
8 
Yn rheoliad 60(11) yn lle “pharagraff (4)” rhodder “pharagraff (10)”.
9 
Yn rheoliad 60(12) yn lle “baragraff (4)” rhodder “baragraff (10)”.
10 
Yn rheoliad 80(2) yn lle “paragraff 6 neu 7” rhodder “paragraff 7 neu 8”.
11 
Yn nhestun Saesneg paragraff 9(1)(a)(ii) yn Atodlen 1, hepgorer “a” ar ôl “a family member of”.
12 
Yn nhestun Cymraeg paragraff 5(1)(a) yn Atodlen 6, yn lle “£39,780” rhodder “£39,793”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
1 Awst 2009