
2009 Rhif 2059 (Cy.178)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMR
Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) (Diwygio) 2009
Gwnaed 23 Gorffennaf 2009
Yn dod i rym 1 Hydref 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 18(1) ac 204(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) ac, wedi cwblhau'r ymgynghoriad a ragnodwyd o dan adran 18(3) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) (Diwygio) 2009 a daw i rym ar 1 Hydref 2009.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y prif Orchymyn” (“the principal Order”) yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993.
Diwygio erthygl 3 o'r prif Orchymyn
2 
Hepgorer erthygl 3(2)(d) o'r prif Orchymyn.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
23 Gorffennaf 2009