
2009 Rhif 2058 (Cy.177)
Y GWASANAETHIECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009
Gwnaed 23 Gorffennaf 2009
Yn dod i rym 1 Awst 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 18(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraffau 5 a 7 o Atodlen 3 iddi, ac adran 25 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, ac ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad a ragnodir o dan adran 18(3) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009 a daw i rym ar 1 Awst 2009.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 mae i “dyddiad gweithredol” yr ystyr a roddir i (“operational date”) ym mharagraff 5(5) o Atodlen 3 i'r Ddeddf;
 ystyr “dyddiad sefydlu” (“establishment date”) yw 1 Awst 2009;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
 ystyr “yr ymddiriedolaeth” (“the trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydlir gan erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn.
Sefydlu'r ymddiriedolaeth
2 
Sefydlir ymddiriedolaeth GIGo'r enw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru neu the Public Health Wales National Health Service Trust.
Natur a swyddogaethau'r ymddiriedolaeth
3 

(1) Sefydlir yr ymddiriedolaeth at y diben a bennir yn adran 18(1) o'r Ddeddf.
(2) Dyma swyddogaethau'r ymddiriedolaeth:
(a) darparu i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, neu mewn perthynas ag ef, a rheoli amrediad o wasanaethau iechyd cyhoeddus, diogelu iechyd, gwella gofal iechyd, cynghori ar iechyd, amddiffyn plant a labordy microbiolegol a gwasanaethau'n ymwneud â gwyliadwriaeth dros glefydau trosglwyddadwy, a'u hatal a'u rheoli;
(b) datblygu a chynnal trefniadau ar gyfer peri bod gwybodaeth ynghylch materion sy'n ymwneud â diogelu a gwella iechyd yng Nghymru ar gael i'r cyhoedd yng Nghymru; gwneud a chomisiynu ymchwil i faterion o'r fath a darparu a datblygu hyfforddiant mewn materion o'r fath;
(c) gwneud yn systematig y gwaith o gasglu, dadansoddi a lledaenu gwybodaeth ynghylch iechyd pobl Cymru, gan gynnwys yn enwedig fynychder achosion o gancr, eu marwoldeb a'u goroesiad; a chyffredinolrwydd anghysonderau cynhenid; ac
(ch) darparu, rheoli, monitro, gwerthuso a gwneud ymchwil i sgrinio cyflyrau iechyd a sgrinio materion ymwneud ag iechyd.
Cyfarwyddwyr yr ymddiriedolaeth
4 
Mae gan yr ymddiriedolaeth, yn ychwanegol at y cadeirydd, 6 o gyfarwyddwyr anweithredol a 5 cyfarwyddwr gweithredol.
Dyddiad gweithredol a dyddiad cyfrifydda'r ymddiriedolaeth
5 

(1) Dyddiad gweithredol yr ymddiriedolaeth yw 1 Hydref 2009.
(2) Dyddiad cyfrifydda'r ymddiriedolaeth yw 31 Mawrth.
Swyddogaethau cyfyngedig cyn y dyddiad gweithredol
6 
Rhwng dyddiad ei sefydlu a'i ddyddiad gweithredol mae gan yr ymddiriedolaeth y swyddogaethau canlynol—
(a) ymrwymo i gontractau GIG;
(b) ymrwymo i gontractau eraill gan gynnwys contractau cyflogaeth; ac
(c) gwneud y fath bethau eraill ag sydd yn rhesymol angenrheidiol i'w galluogi i ddechrau gweithredu yn foddhaol gydag effaith o'i ddyddiad gweithredol.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
23 Gorffennaf 2009