
2009 Rhif 201 (Cy.26)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) (Diwygio) 2009
Gwnaed 2 Chwefror 2009
Yn dod i rym 3 Chwefror 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 18, 203 a 204(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 4 o Atodlen 3 iddi, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) (Diwygio) 2009 a daw i rym ar 3 Chwefror 2009.
Diwygio'r Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu)
2 
Yn Erthygl 4 o Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) 1998, ar ôl y gair “chairman”, rhodder y gair “seven” yn lle'r gair “five”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
2 Chwefror 2009