
2009 Rhif 1977 (Cy.176)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009
Gwnaed 20 Gorffennaf 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 21 Gorffennaf 2009
Yn dod i rym 21 Gorffennaf 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 46, 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enw, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009 a deuant i rym ar 21 Gorffennaf 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) 2004
2 

(1) Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) 2004 wedi'u diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 (cyffuriau neu feddyginiaethau i'w harchebu o dan amgylchiadau penodol yn unig), yn y cofnod am y cyffur Zanamivir (Relenza)—
(a) Rhif er y paragraff cyfredol am y cofnod yng ngholofn 2 yn “(1)”; a
(b) mewnosoder yng ngholofnau 2 a 3 yn y drefn honno—“

(2) Adult and child patients where—
 the supply of drugs is—
(a) made—
(i) while a disease is pandemic, or
(ii) in anticipation of a disease being imminently pandemic, and is a serious risk,or is potentially a serious risk, to human health;
 and
(b) in accordance with a protocol relating to that disease as provided for in article 12F of the Prescription Only Medicines (Human Use) Order 1997 or article 8 of the Medicines (Pharmacy and General Sale-Exemption) Order 1980. Treatment and prophylaxis of influenza”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
20 Gorffennaf 2009