
2009 Rhif 1921 (Cy.175) (C.91)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2009
Gwnaed 16 Gorffennaf 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 40 a 44(3) a (5) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2009.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y diwrnod penodedig
2 
Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym yw 1 Medi 2009—
(a) adran 36 (hawl perthynas i wneud cais am orchymyn preswylio);
(b) adran 37 (hyd gorchmynion preswylio);
(c) adran 38 (hawl perthynas i wneud cais am orchymyn gwarcheidiaeth arbennig); ac
(ch) adran 42 ac Atodlen 4 (diddymiadau) i'r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 12(5) a (6) o Deddf Plant 1989 ac â diddymu'n rhannol adran 91(10) o'r Ddeddf honno.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
16 Gorffennaf 2009