
2009 Rhif 192 (Cy.24)
ANIFEILIAID, CYMRU
Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) 2009
Gwnaed 2 Chwefror 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 4 Chwefror 2009
Yn dod i rym 25 Chwefror 2009

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â chamau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cwblhau'r ymgynghoriad a oedd yn ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelu Bwyd Ewropeaidd ac yn gosod y gweithdrefnau ym materion diogelwch bwyd.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) 2009; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 25 Chwefror 2009.
Diwygio Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008
2 
Diwygir Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008 (“y prif Reoliadau”) yn unol â rheoliad 3.
Diwygiadau i destun Cymraeg y prif Reoliadau
3 
Diwygir testun Cymraeg y prif Reoliadau fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 15(1)(c) yn lle “sydd ag” rhodder “a chanddo yn ei feddiant, neu i gyflenwr,” ac ar ôl y trydydd tro y ceir “anifeiliaid”, dileer “yn ei feddiant”;
(b) ym mharagraff 5(6) o Atodlen 3 yn lle'r gair “rheoliad” rhodder y gair “paragraff”; ac
(c) ym mharagraff 3(2) o Atodlen 6 yn lle'r llythyren “(d)” rhodder y llythyren “(ch)”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
2 Chwefror 2009