
2009 Rhif 1915 (Cy.174)
TAI, CYMRU
Rheoliadau Tai Amlfeddiannaeth (Rheoli) (Cymru) 2009
Gwnaed 16 Gorffennaf 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20 Gorffennaf 2009
Yn dod i rym 10 Awst 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 234 o Ddeddf Tai 2004 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai Amlfeddiannaeth (Rheoli) (Cymru) 2009, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 10 Awst 2009.
Diwygio Rheoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006
2 

(1) Diwygier Rheoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006 yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 6 (dyletswydd rheolwr i gyflenwi a chynnal a chadw nwy a thrydan) yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “peiriannydd cydnabyddedig” (“recognised engineer”) yw peiriannydd a gymeradwywyd o dan reoliad 3 o Reoliadau Diogelwch Nwy (Gosodiadau a Defnydd) 1998.”.
Diwygio Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Darpariaethau Ychwanegol) (Cymru) 2007
3 

(1) Diwygier Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Darpariaethau Ychwanegol) (Cymru) 2007 yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 7 (dyletswydd rheolwr i gyflenwi a chynnal a chadw nwy a thrydan) yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “peiriannydd cydnabyddedig” (“recognised engineer”) yw peiriannydd a gymeradwywyd o dan reoliad o Reoliadau Diogelwch Nwy (Gosodiadau a Defnydd) 1998.”.
Jocelyn Davies
Y Dirprwy Weinidog dros Dai o dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
16 Gorffennaf 2009