
2009 Rhif 1910 (Cy. 173)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009
Gwnaed 15 Gorffennaf 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20 Gorffennaf 2009
Yn dod i rym 10 Awst 2009

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 10 Awst 2009.
Diwygio
2 
Yn rheoliad (Anifail, dofednod a chig dan gyfyngiadau: diffiniadau) o Reoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) 2008, ym mharagraff 8 o'r fersiwn Saesneg, yn lle “protected” rhodder “protection”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
15 Gorffennaf 2009