
2009 Rhif 1844 (Cy.168)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Cod Derbyniadau Ysgol (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2009
Gwnaed 6 Gorffennaf 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 85(5) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cod Derbyniadau Ysgol (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2009.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwrnod Penodedig
2 
Y diwrnod a bennir fel y diwrnod y daw'r Cod Derbyniadau Ysgol (y gosodwyd copi o ddrafft ohono gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 18 Mai 2009) i rym yw 15 Gorffennaf 2009.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
6 Gorffennaf 2009