
2009 Rhif 1796 (Cy.163) (C.88)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 1) 2009
Gwnaed 4 Gorffennaf 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 53(2) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, yn gwneud y Gorchymyn canlynol.
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 1) 2009 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
Y diwrnod penodedig
2 
17 Gorffennaf 2009 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Mesur ddod i rym—
(a) Adran 1.
(b) Adran 2(2) a (3).
(c) Adran 4.
(ch) Adran 5.
(d) Adran 6.
(dd) Adran 7.
(e) Adran 8(1) i (6) yn gynhwysol.
(f) Adran 15(8) a (9).
(ff) Adran 16.
(g) Adran 25.
(ng) Adran 31.
(h) Adran 32.
(i) Adran 35.
(j) Adran 36.
(l) Adran 38.
(ll) Adran 45.
(m) Adran 47.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
4 Gorffennaf 2009