
2009 Rhif 1673 (Cy.158)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol am Ddim) (Credyd Treth Gwaith) (Cymru) 2009
Gwnaed 1 Gorffennaf 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 3 Gorffennaf 2009
Yn dod i rym 3 Awst 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 512ZB(4)(a)(iv) a 568 o Ddeddf Addysg 1996 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol am Ddim) (Credyd Treth Gwaith) (Cymru) 2009. Daw i rym ar 3 Awst 2009 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 mae i “Credyd Treth Gwaith” yr un ystyr â “Working Tax Credit” yn Neddf 2002; ac
 ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Credydau Treth 2002.
Credyd treth rhagnodedig
2 
Mae Credyd Treth Gwaith wedi'i ragnodi at ddibenion adran 512ZB(4)(a)(iv) o Ddeddf Addysg 1996 o dan amgylchiadau pan fo rhiant sydd â hawl i'w gael yn cael ei drin fel un sy'n gwneud gwaith cymwys sy'n talu (o fewn ystyr Deddf 2002) yn rhinwedd rheoliad 7D o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Yr Hawl i'w Gael a'r Gyfradd Uchaf) 2002.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
1 Gorffennaf 2009