
2009 Rhif 1580 (Cy.156)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Clefyd Pothellog y Moch (Cymru) (Diwygio) 2009
Gwnaed 25 Mehefin 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 26 Mehefin 2009
Yn dod i rym 17 Gorffennaf 2009
Mae Gweinidogion Cymru, sydd wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Clefyd Pothellog y Moch (Cymru) (Diwygio) 2009; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 17 Gorffennaf 2009.
Diwygio Rheoliadau Clefyd Pothellog y Moch (Cymru) 2009
2 
Mae Rheoliadau Clefyd Pothellog y Moch (Cymru) 2009 (“y Prif Reoliadau”) wedi'u diwygio'n unol â Rheoliad 3.
Diwygio'r fersiwn Saesneg o'r Prif Reoliadau
3 
Yn rheoliad 41(a) o'r fersiwn Saesneg o'r Prif Reoliadau, mewnosoder y gair “intentionally” ar ôl y gair “to”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
25 Mehefin 2009