
2009 Rhif 1557 (Cy.152)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2009
Gwnaed 24 Mehefin 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 25 Mehefin 2009
Yn dod i rym 28 Medi 2009

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos i'r Ysgrifennydd Gwladol ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad at offeryn Cymunedol a ddiffinnir yn Atodlen 1 i gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra oedd y Rheoliadau canlynol yn cael eu llunio.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2009, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 28 Medi 2009.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn —
 mae i “anifeiliaid hela” yr ystyr a roddir i “game” yn Rheoliad 853/2004;
 mae i “anifeiliaid hela a ffermir” yr ystyr a roddir i “farmed game” ym mhwynt 1.6 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;
 mae i “anifeiliaid hela gwyllt” yr ystyr a roddir i “wild game” ym mhwynt 1.5 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;
 mae i “archwilio” yr ystyr sydd i “audit” yn Erthygl 2.6 o Reoliad 882/2004;
 ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw milfeddyg swyddogol, cynorthwyydd swyddogol neu unrhyw berson arall a benodir gan yr Asiantaeth i bwrpas cyflawni rheolaethau;
 ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;
 mae i “carnolion domestig” yr ystyr a roddir i “domestic ungulates” ym mhwynt 1.2 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;
 mae i “cig” yr ystyr a roddir i “meat” ym mhwynt 1.1 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;
 mae i “cig anifeiliaid hela” yr ystyr a roddir i “game meat” yn Rheoliad 853/2004;
 mae i “cig ffres” yr ystyr a roddir i “fresh meat” ym mhwynt 1.10 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;
 ystyr “costau mewn amser” (“time costs”) mewn perthynas ag unrhyw sefydliad am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, yw'r costau a gyfrifyddir yn unol â pharagraffau 7 i 9 o Atodlen 2;
 mae i “Cyfarwyddeb 2004/41”, “Rheoliad 178/2002”, “Rheoliad 852/2004”, “Rheoliad 853/2004”, “Rheoliad 854/2004”, “Rheoliad 882/2004”, “Rheoliad 1688/2005”, “Rheoliad 2073/2005”, “Rheoliad 2074/2005”, “Rheoliad 2075/2005” a “Rheoliad 2076/2005” yr ystyron a roddir i “Directive 2004/41”, “Regulation 178/2002”, “Regulation 852/2004”, “Regulation 853/2004”, “Regulation 854/2004”, “Regulation 882/2004”, “Regulation 1688/2005”, “Regulation 2073/2005”, “Regulation 2074/2005”, “Regulation 2075/2005” a “Regulation 2076/2005” yn ôl eu trefn yn Atodlen 1;
 ystyr “cyfnod cyfrifyddu” (“accounting period”) yw cyfnod sy'n llai na blwyddyn y penderfynir arno gan yr Asiantaeth;
 mae i “dofednod” yr ystyr a roddir i “poultry” ym mhwynt 1.3 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;
 ystyr “ffi rheolaethau swyddogol” (“official controls charge”) yw'r ffi a gyfrifir yn unol ag Atodlen 2 ac a hysbysir yn unol â rheoliad 3(1), (2) neu (3);
 ystyr “gweithredydd” (“operator”) yw gweithredydd busnes bwyd sy'n rhedeg busnes bwyd ar unrhyw fangre neu ei gynrychiolydd a awdurdodwyd yn briodol;
 mae i “gweithredydd busnes bwyd” yr ystyr a roddir i “food business operator” yn Erthygl 3.3 o Reoliad 178/2002;
 ystyr “gwirhau” (“verification”) yw gwirio, drwy archwilio a darparu tystiolaeth wrthrychol;
 mae i “lagomorffiaid” yr ystyr a roddir i “lagomorphs” ym mhwynt 1.4 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;
 ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw sefydliad a ddefnyddir i gigydda a thrin anifeiliaid, y mae eu cig wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl ac sydd —
(a) wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004; neu
(b) (er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel lladd-dy trwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995 neu Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Arolygu) 1995;
 ystyr “mangre” (“premises”) yw unrhyw ladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela, safle torri, lle sydd y tu allan i'r lladd-dy at ddibenion pennod VI o Adran 1 o Atodiad III i Reoliad 853/2004, fferm neu darddle;
 mae i “milfeddyg swyddogol” yr ystyr a roddir i “official veterinarian” yn Erthygl 2.1(f) o Reoliad 854/2004;
 ystyr “rheolaethau” (“controls”) yw'r rheolaethau swyddogol hynny a gyflawnir gan yr Asiantaeth—
(a) yn unol â Rheoliad 854/2004, mewn lladd-dai, sefydliadau trin anifeiliaid hela a safleoedd torri, ar gyfer gwirhau cydymffurfedd â darpariaethau Rheoliad 853/2004 i'r graddau y maent yn gymwys mewn perthynas â chig carnolion domestig, cig dofednod a lagomorffiaid, cig anifeiliaid hela a ffermir a chig anifeiliaid hela gwyllt;
(b) mewn lladd-dai, ar gyfer gwirhau cydymffurfedd â darpariaethau Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 1995 i'r graddau y maent yn gymwys mewn perthynas ag anifeiliaid a gigyddir yno i'w bwyta gan bobl;
(c) mewn perthynas â charnolion domestig a gigyddir y tu allan i'r lladd-dy, yn unol â Phennod VI o Adran I o Atodiad III i Reoliad 853/2004;
(ch) mewn perthynas â dofednod a gigyddir ar y fferm, yn unol â Phennod VI o Adran II o Atodiad III i Reoliad 853/2004; a
(d) mewn perthynas—
(i) ag adar di-gêl a ffermir,
(ii) â mamaliaid hela a ffermir o deulu'r Cervidae neu deulu'r Suidae, neu
(iii) â bison,a gigyddir yn y tarddle, yn unol ag Adran III o Atodiad III i Reoliad 853/2004;
 mae'r ymadrodd “rheolaethau swyddogol” (“official controls”) i'w ddehongli'n unol â'r diffiniad o “official control” yn Erthygl 2.1 o Reoliad 882/2004;
 mae i “rhoi ar y farchnad” yr ystyr a roddir i “placing on the market” yn Erthygl 3.8 o Reoliad 178/2002;
 ystyr “safle torri” (“cutting plant”) yw sefydliad a ddefnyddir ar gyfer tynnu esgyrn a thorri/neu dorri cig ffres er mwyn ei roi ar y farchnad ac —
(a) sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004; neu
(b) (er ei fod heb y gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol y mae ei hangen arno o dan Erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel mangre dorri drwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995 neu Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Arolygu) 1995;
 mae i “sefydliad” yr ystyr a roddir i “establishment” yn Erthygl 2.1(c) o Reoliad 852/2004;
 ystyr “sefydliad trin anifeiliaid hela” (“game-handling establishment”) yw unrhyw sefydliad lle y caiff anifeiliaid hela a chig anifeiliaid hela a geir ar ôl hela eu paratoi i'w rhoi ar y farchnad ac —
(a) sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004; neu
(b) (er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel cyfleuster trwyddedig i brosesu anifeiliaid hela gwyllt o dan Reoliadau Cig Anifeiliaid Hela Gwyllt (Hylendid ac Arolygu) 1995;
 mae i “tarddle” yr ystyr sydd i “place of origin” ym mhwynt 3 o Adran III o Atodiad III i Reoliad 853/2004; ac
 mae i “torri” yr ystyr a roddir i “cutting up” yn Rheoliad 853/2004.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at offeryn Cymunedol a ddiffinnir yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
Ffioedd
3 

(1) Rhaid i'r Asiantaeth, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, hysbysu pob gweithredydd unrhyw fangre lle'r arferwyd rheolaethau swyddogol mewn unrhyw gyfnod cyfrifyddu o ffi rheolaethau swyddogol mewn cysylltiad â'r rheolaethau swyddogol hynny cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw.
(2) Os nad yw'r Asiantaeth yn gallu cydymffurfio â pharagraff (1) am nad oes digon o wybodaeth ar gael iddi i'w galluogi i gyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol ar gyfer unrhyw gyfnod cyfrifyddu mewn cysylltiad ag unrhyw fangre, rhaid iddi hysbysu gweithredydd y fangre honno o ffi interim, sef y swm y mae'r Asiantaeth yn ei amcangyfrif (gan ystyried yr wybodaeth sydd ganddi) yw'r ffi rheolaethau swyddogol.
(3) Os yw'r Asiantaeth wedi hysbysu gweithredydd o ffi interim yn unol â pharagraff (2), a bod gwybodaeth ddigonol yn dod ar gael i'r Asiantaeth gyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol, rhaid iddi gyfrifo'r ffi honno ac—
(a) os yw'n fwy na'r ffi interim, rhaid iddi hysbysu'r gweithredydd o'r swm y mae'r ffi rheolaethau swyddogol yn fwy na'r ffi interim; neu
(b) yn ddarostyngedig i baragraff (5), os yw'n llai na'r ffi interim, rhaid iddi roi'n gredyd i'r gweithredydd y swm y mae'r ffi interim yn fwy na'r ffi rheolaethau swyddogol.
(4) Mae unrhyw ffi a hysbysir i weithredydd o dan baragraff (1), (2) neu (3) yn daladwy gan y gweithredydd i'r Asiantaeth pan hawlir hi.
(5) Os yw swm o dan baragraff (3)(b) i gael ei gredydu i weithredydd, caiff yr Asiantaeth, os yw'n penderfynu gwneud hynny, dalu'r cyfryw swm i'r gweithredydd o dan sylw yn hytrach na'i gredydu i'r gweithredydd.
Tynnu rheolaethau yn ôl
4 
Os cafodd yr Asiantaeth ddyfarniad wedi'i gofnodi yn erbyn gweithredydd unrhyw fangre am unrhyw swm sy'n daladwy iddi o dan reoliad 3(4) ac os yw'r gweithredydd yn methu â bodloni'r dyfarniad o fewn cyfnod rhesymol wedyn, caniateir i'r Asiantaeth (ni waeth beth fo unrhyw rwymedi cyfreithiol arall sy'n agored iddi) wrthod arfer unrhyw reolaethau swyddogol pellach yn y fangre honno hyd nes y bodlonir y dyfarniad.
Gwybodaeth
5 

(1) Rhaid i weithredydd pan hawlir hynny gan yr Asiantaeth, roi—
(a) y cyfryw wybodaeth ag y byddo ar yr Asiantaeth angen rhesymol ei chael at ddiben cyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol neu ar gyfer hysbysu gweithredydd ohoni; a
(b) unrhyw dystiolaeth ag y byddo ar yr Asiantaeth angen rhesymol ei chael i'w galluogi i wirhau gwybodaeth a roddwyd iddi o dan is-baragraff (a).
(2) Rhaid i unrhyw hawliad a wneir gan yr Asiantaeth o dan baragraff (1) fod yn ysgrifenedig a chaniateir ei gyflwyno i'r gweithredydd dan sylw—
(a) drwy ei ddanfon at y gweithredydd hwnnw;
(b) yn achos gweithredydd sy'n gorff corfforaethol ac eithrio partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig—
(i) drwy ei ddanfon at ysgrifennydd neu ysgrifenyddes y gweithredydd yn swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r gweithredydd, neu,
(ii) drwy ei anfon mewn amlen ragdaledig wedi ei chyfeirio at ysgrifennydd neu ysgrifenyddes y gweithredydd yn y swyddfa honno;
(c) yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig—
(i) drwy ei ddanfon at aelod dynodedig o'r bartneriaeth, yn swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r gweithredydd, neu
(ii) drwy ei anfon mewn amlen ragdaledig wedi ei chyfeirio at aelod dynodedig o'r bartneriaeth yn y swyddfa honno;
(ch) yn achos gweithredydd sy'n bartneriaeth ac eithrio partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, drwy ei ddanfon i brif fan busnes y bartneriaeth; neu
(d) yn achos unrhyw weithredydd arall, drwy ei adael ym mhreswylfa arferol y gweithredydd neu'r breswylfa oedd yn hysbys ar ei gyfer ddiwethaf neu drwy ei anfon mewn amlen ragdaledig wedi ei chyfeirio at breswylfa arferol y gweithredydd neu'r breswylfa oedd yn hysbys ar ei gyfer ddiwethaf.
(3) Os yw hawliad i'w gyflwyno i weithredydd o dan baragraff (2) ond nad yw'n rhesymol ymarferol sicrhau enw a chyfeiriad y person y dylid ei gyflwyno iddo, neu os yw mangre'r gweithredydd heb fod yn cael ei meddiannu, caniateir cyflwyno'r ddogfen drwy ei chyfeirio at y gweithredydd yn rhinwedd ei swyddogaeth fel meddiannydd y fangre honno (gan enwi'r fangre), a—
(a) drwy ei danfon at ryw berson arall yn y fangre; a
(b) os nad oes person arall yn y fangre y gellir ei danfon ato, drwy ei rhoi'n sownd neu roi copi ohoni'n sownd wrth ryw ran amlwg o'r fangre.
(4) Bydd unrhyw berson sydd —
(a) ac yntau'n honni ei fod yn cydymffurfio â pharagraff (1), yn ddi-hid neu gan wybod hynny, yn rhoi gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys; neu
(b) heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio o fewn cyfnod rhesymol â hawliad a wnaed o dan baragraff (1),
yn euog o dramgwydd a bydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Dirymu
6 
Mae Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2008 wedi'u dirymu.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Mehefin 2009
ATODLEN 1
DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL
Rheoliad 2(1)


 Ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC;
 ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;
 ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd, fel y'i darllenir gyda Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005;
 ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid, fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;
 ystyr “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl, fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2075/2005 a Rheoliad 2076/2005;
 ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirhau, fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;
 ystyr “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 yn gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i'r Ffindir ac i Sweden;
 ystyr “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd;
 ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 yn gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac er mwyn trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhan-ddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004;
 ystyr “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar Trichinella mewn cig; ac
 ystyr “Rheoliad 2076/2005” (“Regulation 2076/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol i weithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004.

ATODLEN 2
CYFRIFO'R FFI RHEOLAETHAU SWYDDOGOL
Rheoliad 2(1)
Y ffi rheolaethau swyddogol
1 
Y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy gan weithredydd unrhyw fangre am unrhyw gyfnod cyfrifyddu yw'r swm sy'n hafal i'r cyfryw ganran o gostau mewn amser a gynhyrchir gan y fangre honno yn y cyfnod hwnnw ag y mae'r Asiantaeth o'r farn ei fod yn briodol a chaiff yr Asiantaeth benderfynu canrannau gwahanol ar gyfer mangreoedd gwahanol neu fathau gwahanol o fangreoedd.
2 
Caiff yr Asiantaeth amrywio unrhyw ganran a benderfynir yn unol â pharagraff 1 os ymddengys iddi ei bod yn briodol iddi wneud hynny.
Datganiadau gan weithredwyr
3 
Rhaid i weithredydd unrhyw fangre, ar hawliad a wneir gan yr Asiantaeth, ddatgan beth fydd yr oriau gwaith a'r arferion gwaith a weithredir gan y gweithredydd ar y fangre.
Cytundebau rhwng yr Asiantaeth a gweithredwyr ynghylch cyflawni rheolaethau ac eithrio archwilio
4 

(1) Rhaid i'r Asiantaeth a gweithredydd unrhyw fangre—
(a) gwneud pob ymdrech resymol i gytuno ar nifer yr arolygwyr sydd eu hangen at ddiben cyflawni rheolaethau, ac eithrio archwilio, ar y fangre a nifer yr oriau sydd eu hangen bob dydd i'r pwrpas hwnnw; a
(b) cadw'r materion y cytunwyd arnynt o dan is-baragraff (a) o dan arolygiaeth.
(2) Os ymddengys i'r Asiantaeth a'r gweithredydd, yn sgil unrhyw adolygiad o'r fath, ei bod yn briodol gwneud hynny, caniateir iddynt, drwy gytundeb pellach, amrywio unrhyw faterion y cytunwyd arnynt yn unol ag is-baragraff (1)(a).
(3) Os bydd unrhyw faterion y cytunwyd arnynt yn unol ag is-baragraff (1)(a) wedi eu hamrywio'n unol ag is-baragraff (2) rhaid eu trin fel pe cytunwyd arnynt yn unol ag is-baragraff (1)(a).
5 

(1) Os yw'r Asiantaeth a'r gweithredydd yn methu â chytuno ar fater a bennir yn is-baragraff (1)(a) o baragraff 4, rhaid i'r Asiantaeth benderfynu ar y mater a hysbysu'r gweithredydd o'r penderfyniad hwnnw.
(2) Caiff gweithredydd nad yw'n cytuno â phenderfyniad a wnaed gan yr Asiantaeth yn unol ag is-baragraff (1), o fewn 3 wythnos ar ôl i'r Asiantaeth ei hysbysu o dan yr is-baragraff hwnnw, ofyn am i'r penderfyniad gael ei adolygu gan yr Asiantaeth.
(3) Os bydd gweithredydd yn gwneud cais o dan is-baragraff (2) ac yn talu'r Asiantaeth y swm o £250 ar ffurf cyfraniad tuag at y costau a dynnir gan yr Asiantaeth mewn cysylltiad â'r adolygiad, rhaid i'r Asiantaeth adolygu'r penderfyniad o dan sylw a hysbysu'r gweithredydd o'i phenderfyniad.
(4) Os bydd yr Asiantaeth yn penderfynu, yn unol ag is-baragraff (3), bod penderfyniad a wnaed ganddi yn unol ag is-baragraff (1) yn anghywir, rhaid iddi ad-dalu i'r gweithredydd y taliad a wnaed gan y gweithredydd yn unol ag is-baragraff (3).
(5) Os—
(a) bydd yr Asiantaeth, yn sgil adolygiad a gynhelir yn unol ag is-baragraff (3), yn penderfynu bod ei phenderfyniad yn gywir; a
(b) bydd y gweithredydd wedi cydymffurfio â'r hawliad mwyaf diweddar a wnaed gan yr Asiantaeth yn unol â pharagraff 3,
caiff y gweithredydd ofyn am i'r mater sy'n destun y penderfyniad hwnnw gael ei benderfynu gan berson a enwebir i'r pwrpas yn unol ag is-baragraff (7)(a).
(6) Rhaid i gais o dan is-baragraff (5) gael ei wneud o fewn 1 wythnos ar ôl i'r Asiantaeth hysbysu'r gweithredydd o dan is-baragraff (3).
(7) Os bydd gweithredydd yn gwneud cais o dan is-baragraff (5) —
(a) rhaid i'r Asiantaeth enwebu person i benderfynu ar y mater ar sail y rhestr a luniwyd o dan is-baragraff (8); a
(b) o fewn 1 mis ar ôl cael ei enwebu—
(i) rhaid i'r person a enwebwyd felly roi cyfle i'r gweithredydd ac i'r Asiantaeth i wneud cynrychioliadau ar y mater sydd i'w benderfynu,
(ii) rhaid i'r person a enwebwyd felly benderfynu ar y mater o dan sylw,
(iii) caiff y person a enwebwyd felly wneud y cyfryw orchymyn o ran y costau a dynnwyd gan y gweithredydd a'r Asiantaeth ag y mae o'r farn ei fod yn briodol, a
(iv) rhaid i'r person a enwebwyd felly hysbysu'r gweithredydd a'r Asiantaeth o'i benderfyniad ac o unrhyw orchymyn o'r fath.
(8) Rhaid i'r Asiantaeth lunio a chadw rhestr o bobl y caniateir eu henwebu at ddibenion y paragraff hwn ac ymgynghori â'r sefydliadau hynny yr ymddengys eu bod yn cynrychioli gweithredwyr cyn cynnwys unrhyw berson ar y rhestr.
(9) Os, yn unol ag is-baragraff (7)(b)(ii), bydd person a enwebwyd yn unol ag is-baragraff (7)(a) yn penderfynu bod penderfyniad a wnaed gan yr Asiantaeth yn unol ag is-baragraff (3) yn anghywir, rhaid i'r Asiantaeth ad-dalu i'r gweithredydd y taliad a wnaed gan y gweithredydd yn unol ag is-baragraff (3).
6 
Nid oes dim ym mharagraff 4 neu 5 yn cyfyngu ar yr Asiantaeth wrth iddi gwblhau'r cyfryw reolaethau ag y mae o'r farn bod eu hangen er mwyn sicrhau bod yr amcanion a bennir yn Erthygl 1.1 o Reoliad 882/2004 yn cael eu cyflawni a bod y rhwymedigaeth a bennir yn Erthygl 3.1 o'r Rheoliad hwnnw'n cael ei bodloni.
Costau mewn amser
7 
Cyfrifir y costau mewn amser a gynhyrchir gan unrhyw fangre yn unrhyw gyfnod cyfrifyddu (yn ddarostyngedig i baragraffau 8 a 9) drwy—
(a) lluosi'r amser (a fynegir mewn oriau a ffracsiynau o awr) a dreulir gan bob arolygydd sy'n arfer rheolaethau yn y fangre honno yn ystod y cyfnod â'r tâl wrth yr awr sy'n gymwys i'r arolygydd hwnnw ac a benderfynir yn unol â pharagraff 10 neu a amrywir yn unol â pharagraff 12; a
(b) adio'r canlyniadau at ei gilydd.
8 
Mae'r costau mewn amser o ran unrhyw reolaethau yn cynnwys unrhyw daliadau goramser neu lwfansau eraill tebyg a delir i'r arolygydd o dan sylw o dan ei gontract cyflogaeth neu ei gontract am wasanaethau am arfer y rheolaethau hynny.
9 

(1) Wrth benderfynu cyfanswm yr amser a dreuliwyd yn arfer rheolaethau, caiff unrhyw amser a dreuliwyd gan arolygydd yn teithio i fangre neu o fangre lle y mae'r arolygydd yn arfer rheolaethau swyddogol ac y caiff ei dalu amdani o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau ei gyfrif fel pe bai'n amser a dreuliwyd gan yr arolygydd yn arfer rheolaethau.
(2) Wrth benderfynu ar gyfanswm yr amser a dreuliwyd yn arfer rheolaethau, mae unrhyw amser a gaiff ei dreulio gan arolygydd—
(a) mewn unrhyw fangre y mae'r arolygydd wedi mynd iddi at ddiben arfer rheolaethau swyddogol ac y mae'n cael ei dalu amdani o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau (ni waeth a yw'n gallu arfer rheolaethau yno ai peidio); a
(b) mewn unrhyw fan arall—
(i) pan fo'r arolygydd ar gael i arfer rheolaethau ond pan nad yw mewn gwirionedd yn arfer unrhyw reolaethau o'r fath, a
(ii) y telir yr arolygydd amdano o dan ei gontract cyflogaeth neu ei gontract am wasanaethau,
i'w gyfrif fel pe bai'n amser pan oedd yr arolygydd yn arfer rheolaethau.
10 
Rhaid i'r Asiantaeth benderfynu ar y tâl yr awr sy'n gymwys i arolygwyr, a chaiff benderfynu ar daliadau gwahanol ar gyfer arolygwyr gwahanol neu ddosbarthau gwahanol o arolygydd, gan roi sylw i lefel cymwysterau a phrofiad gwahanol arolygwyr neu wahanol ddosbarthau o arolygydd ac i gost arfer rheolaethau gan wahanol arolygwyr neu wahanol ddosbarthau o arolygydd.
11 
Mae'r tâl yr awr ar gyfer unrhyw arolygydd neu ddosbarth o arolygydd i'w gyfrifo fel y bydd yn adlewyrchu'r cyfryw gyfran o gostau'r eitemau a restrir yn Atodiad VI i Reoliad 882/2004 a dynnir gan yr arolygydd hwnnw neu'r dosbarth hwnnw o arolygydd wrth arfer rheolaethau (ac eithrio unrhyw gostau ychwanegol a ystyrir yn unol â pharagraff 8) ag y mae'r Asiantaeth o'r farn ei bod yn gyfran briodol ar y tâl hwnnw yr awr.
12 
Caiff yr Asiantaeth amrywio unrhyw gyfradd a benderfynir yn unol â pharagraff 10 os ymddengys iddi, a hithau wedi ystyried yr amrywiadau mewn costau y cyfeirir atynt ym mharagraff 11, fod angen gwneud hynny.