
2009 Rhif 1511 (Cy.147)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau a Gyfarwyddir) (Cymru) 2009
Gwnaed 18 Mehefin 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 19 Mehefin 2009
Yn dod i rym 1 Hydref 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 12, 203(9) a (10) a 204 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau a Gyfarwyddir) (Cymru) 2009.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2009.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 11(2) o'r Ddeddf;
 ystyr “Byrddau Iechyd Lleol blaenorol” (“former Local Health Boards”) yw'r ddau Fwrdd Iechyd Lleol ar hugain a sefydlwyd ar 10 Chwefror 2003 gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003;
 ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989;
 ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw 1 Hydref 2009;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
 ystyr “gofal parhaus” (“continuing care”) yw gofal a ddarperir dros gyfnod estynedig o amser i berson er mwyn bodloni anghenion iechyd corfforol neu feddyliol sydd wedi digwydd o ganlyniad i salwch;
 mae'r ymadrodd “Gorchymyn BILl” i'w ddehongli'n unol â'r ymadrodd “LHB Order” yn adran 11(2) o'r Ddeddf;
 mae i'r ymadrodd “gwasanaethau deintyddol sylfaenol” yr ystyr sydd i'r ymadrodd “primary dental services” yn adran 56 o'r Ddeddf;
 mae i'r ymadrodd “gwasanaethau fferyllol” yr ystyr sydd i'r ymadrodd “pharmaceutical services” yn adran 80(8) o'r Ddeddf;
 mae i'r ymadrodd “gwasanaethau meddygol sylfaenol” yr ystyr sydd i'r ymadrodd “primary medical services” yn adran 41 o'r Ddeddf; ac
 mae i'r ymadrodd “gwasanaethau offthalmig cyffredinol” yr ystyr sydd i'r ymadrodd “general ophthalmic services” yn adran 71(10) o'r Ddeddf.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, ac yn ddarostyngedig i reoliad 3, y personau sy'n preswylio fel arfer yn yr ardal y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei sefydlu ar ei chyfer yw'r personau y mae Bwrdd Iechyd Lleol yn gyfrifol amdanynt mewn unrhyw flwyddyn.
(3) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd y gall Gweinidogion Cymru ei roi o ran unrhyw achos penodol neu ddosbarthau o achos, os oes amheuaeth o ran ble y mae person yn preswylio fel arfer at ddibenion paragraff (2) —
(a) mae'r person i'w drin fel pe bai'n preswylio fel arfer yn y cyfeiriad a roddwyd ganddo, yn gyfeiriad y mae'r person fel arfer yn preswylio ynddo, i'r person neu'r corff sy'n darparu gwasanaethau ar ei gyfer;
(b) os nad yw'r person yn rhoi unrhyw gyfeiriad o'r fath, mae ef i'w drin fel pe bai'n preswylio fel arfer yn y cyfeiriad y mae'n ei roi, yn gyfeiriad mwyaf diweddar y person, i'r person neu'r corff sy'n darparu gwasanaethau ar ei gyfer;
(c) os na ellir cadarnhau cyfeiriad arferol y person o dan is-baragraffau (a) a (b) uchod, mae ef i gael ei drin fel pe bai'n preswylio fel arfer yn yr ardal y mae'r person yn bresennol ynddi.
Eithriad i reoliad 2(2)
3 

(1) Mae Bwrdd Iechyd Lleol gwreiddiol yn parhau i fod yn gyfrifol am y personau a bennir ym mharagraff (3) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn yr ardal y sefydlwyd ef ar ei chyfer, yn yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff (2).
(2) Dyma'r amgylchiadau—
(a) ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2007
(i) bod y Bwrdd Iechyd Lleol gwreiddiol wedi gwneud trefniant wrth arfer ei swyddogaethau, neu
(ii) bod awdurdod lleol wedi gwneud trefniant
y darperir gwasanaethau, yn rhinwedd y trefniant hwnnw, ar gyfer person y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, sy'n golygu neu'n cynnwys darparu llety sydd wedi ei leoli yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol arall neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol; a
(b) bod y person drwy hynny'n byw yn y llety.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys
(a) i berson sydd o dan 18 oed ac
(i) sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 22(1) o Ddeddf 1989,
(ii) sy'n blentyn perthnasol o fewn ystyr adran 23A o Ddeddf 1989,
(iii) sy'n gymwys i gael cyngor a chymorth o dan adran 24(1A) neu adran 24(1B) o Ddeddf 1989,
(iv) sydd wedi ei leoli mewn ysgol yn unol â datganiad o anghenion addysgol arbennig a wnaed o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996 ac sy'n enwi'r ysgol, neu
(v) y mae arno angen llety er mwyn bodloni anghenion gofal parhaus; a
(b) i berson o dan 21 oed a oedd, yn union cyn ei ben-blwydd yn ddeunaw oed, yn berson a oedd yn dod o fewn un o is-gategorïau is-baragraff (a).
(4) Nid yw cyfrifoldeb Bwrdd Iechyd Lleol gwreiddiol o dan y rheoliad hwn yn ymestyn i'w swyddogaethau mewn perthynas â gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau deintyddol sylfaenol, gwasanaethau fferyllol a gwasanaethau offthalmig cyffredinol.
(5) Yn y rheoliad hwn ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol gwreiddiol” (“Local Health Board of origin”) yw'r Bwrdd Iechyd Lleol a wnaeth y trefniant o dan is-baragraff (2)(a)(i) neu'r Bwrdd Iechyd Lleol sy'n cyfateb i ardal ddaearyddol yr awdurdod lleol a wnaeth y trefniant o dan is-baragraff (2)(a)(ii).
Swyddogaethau i'w harfer gan Fyrddau Iechyd Lleol
4 

(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 5, ac yn ddarostyngedig i unrhyw waharddiadau neu gyfyngiadau mewn Gorchymyn BILl, y swyddogaethau i'w harfer gan Fwrdd Iechyd Lleol o'r dyddiad perthnasol yw:
(a) swyddogaethau Awdurdodau Iechyd blaenorol yng Nghymru a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003 ac y cyfarwyddwyd Byrddau Iechyd Lleol blaenorol gan Reoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 i'w harfer ar 1 Ebrill 2003; a
(b) swyddogaethau Gweinidogion Cymru, i'r graddau nad ydynt yn swyddogaethau o dan is-baragraff (a), fel a bennir yn yr Atodlen.
(2) Mae'r swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) yn benodol yn cynnwys y cyfryw swyddogaethau ag a bennir yn yr Atodlen ond nid ydynt wedi eu cyfyngu iddynt.
Cyfyngu ar arfer swyddogaethau gan Fyrddau Iechyd Lleol
5 
Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn i'w gymryd fel pe bai'n rhoi cyfarwyddiadau ynghylch arfer unrhyw swyddogaethau a roddwyd i Weinidogion Cymru neu a freiniwyd ynddynt mewn cysylltiad ag —
(a) gwneud unrhyw Orchymyn neu Reoliadau; neu
(b) rhoi unrhyw gyfarwyddiadau.
Dirymiadau
6 
Dirymir y Rheoliadau a ganlyn —
 Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Swyddogaethau Awdurdodau Iechyd a Threfniadau Gweinyddol) 1996 (O.S. 1996/708);
 Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/150 (Cy.20));
 Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Diwygio) 2003 (O.S. 2003/816 (Cy.101));
 Rheoliadau Bwrdd Iechyd Lleol Powys (Swyddogaethau Ychwanegol) 2003 (O.S. 2003/815 (Cy.100)); a
 Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 2007 (O.S. 2007/315 (Cy.29)).
Diwygiadau canlyniadol
7 
Gwneir y diwygiadau canlyniadol a ganlyn—
(a) ym mharagraff 16 o Ran 2 o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006—
(i) yn lle “Local Health Boards (Functions) (Wales) Regulations 2003” rhodder “Local Health Boards (Directed Functions) (Wales) Regulations 2009”,
(ii) yn is-baragraff (c) yn lle “3(1)” rhodder “4”,
(iii) dileer is-baragraff (d); a
(b) yn y Cyfarwyddiadau i Fwrdd Iechyd Lleol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe a Bwrdd Iechyd Lleol Sir Fynwy (2006) a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2006, yng nghyfarwyddyd 2(1) yn lle “Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003” rhodder “Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau a Gyfarwyddir) (Cymru) 2009”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
18 Mehefin 2009
YR ATODLEN
Deddfiadau sy'n rhoi Swyddogaethau sy'n Arferadwy gan Fyrddau Iechyd Lleol
Rheoliad 4


(1) (2)
DEDDFIAD CYNNWYS
Deddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus 1968 (p.46) 
adran 63(1), (5) a (6) Darparu ar gyfer hyfforddi swyddogion Byrddau Iechyd Lleol a phersonau eraill a gyflogir neu sy'n arfaethu cael eu cyflogi mewn gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag iechyd neu les.
adran 64(1) Rhoi cymorth ariannol i gyrff gwirfoddol
Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 (p.44) 
adran 17 Darpariaethau mewn cysylltiad â gwahanu cleifion iau oddi wrth gleifion hŷn yn yr ysbyty.
Deddf Iechyd Meddwl 1983 (p.20) 
adran 12(2) Cymeradwyo ymarferwyr meddygol am fod ganddynt brofiad arbennig mewn gwneud diagnosis o neu drin anhwylder meddyliol.
Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 (p.48) 
adran 48 Gwneud deunydd hawlfraint sydd ar gael i'r cyhoedd.
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) 
adran 18 Pennu symiau dangosol costau cyffuriau a meddyginiaethau.
Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43) 
adran 45 Rhoi a chadw yn eu lle drefniadau at ddibenion monitro ansawdd gofal iechyd a'i wella.
adran 47(4) Cymryd i ystyriaeth y safonau a geir mewn datganiadau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42) 
adran 1 Darparu gwasanaethau yn unol â'r Ddeddf neu sicrhau eu bod yn cael eu darparu.
adran 2 Darparu gwasanaethau yr ystyrir eu bod yn briodol ar gyfer cyflawni dyletswyddau a osodir ar Weinidogion Cymru a gwneud unrhyw beth arall a fwriedir i hwyluso cyflawni'r cyfryw ddyletswyddau.
adran 3(1)(a) a (b) Darparu llety mewn ysbyty a llety arall.
adran 3(1)(c) Darparu gwasanaethau meddygol, deintyddol ac offthalmig, a gwasanaethau nyrsio ac ambiwlans.
adran 3(1)(d) Darparu gwasanaethau neu gyfleusterau ar gyfer gofalu am ferched beichiog, merched sy'n bwydo ar y fron a phlant ifanc.
adran 3(1)(e) Darparu gwasanaethau neu gyfleusterau ar gyfer atal salwch, gofalu am bersonau sy'n dioddef o salwch ac am ôl-ofal personau sydd wedi dioddef o salwch.
adran 3(1)(f) Darparu gwasanaethau neu gyfleusterau eraill y mae eu hangen ar gyfer gwneud diagnosis o salwch a'i drin.
adran 4 Darparu gwasanaethau seiciatryddol tra diogel.
adran 5 a pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 1 Darparu ar gyfer gwneud ymchwiliad meddygol ar ddisgyblion a'u trin.
adran 5 a pharagraff 8 o Atodlen 1 Trefnu ar gyfer rhoi cyngor ar atal cenhedlu, ar gyfer gwneud ymchwiliad meddygol ar bersonau sy'n gofyn am y cyfryw gyngor, ar gyfer trin y cyfryw bersonau ac ar gyfer cyflenwi sylweddau a dyfeisiau atal cenhedlu.
adran 5 a pharagraffau 9 a 10 o Atodlen 1 Darparu cerbydau (gan gynnwys cadeiriau olwyn) ar gyfer personau anabl.
adran 5 a pharagraff 12 o Atodlen 1 Darparu gwasanaeth microbiolegol ar gyfer rheoli lledaeniad clefydau heintus.
adran 5 a pharagraff 13 o Atodlen 1 Cynnal neu gynorthwyo personau, drwy gyfrwng grantiau neu fel arall, i ymchwilio i faterion sy'n ymwneud â salwch neu faterion eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaeth a ddarperir o dan y Ddeddf.
adran 6 Darparu gwasanaethau y tu allan i Gymru.
adran 10(1) a (2) Trefnu gydag unrhyw berson neu gorff (gan gynnwys corff gwirfoddol) i'r person neu'r corff hwnnw ddarparu neu gynorthwyo i ddarparu unrhyw wasanaeth o dan y Ddeddf.
adran 10(3) a (4) Sicrhau bod cyfleusterau a gwasanaethau personau a gyflogir mewn cysylltiad â'r cyfryw gyfleusterau ar gael i bersonau neu gyrff penodol (gan gynnwys cyrff gwirfoddol).
adran 10(5) Cytuno telerau a thaliadau mewn cysylltiad â threfniadau a wneir o dan adran 10 o'r Ddeddf.
adran 14(1) Cyflawni swyddogaethau mewn perthynas â gwasanaethau meddygol sylfaenol a gwasanaethau deintyddol sylfaenol.
adran 15 Gweinyddu a rheoli gwasanaethau mewn perthynas â gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau deintyddol sylfaenol, gwasanaethau offthalmig cyffredinol a gwasanaethau fferyllol.
adran 17 Paratoi ac adolygu cynlluniau ar gyfer gwella iechyd pobl y mae'n gyfrifol amdanynt a darparu gofal iechyd ar gyfer y cyfryw bersonau.
adran 38(1)—(4) Cyflenwi nwyddau, gwasanaethau a chyfleusterau eraill i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill a gwneud gwaith cynnal a chadw mewn cysylltiad ag unrhyw dir neu adeilad y mae awdurdod lleol yn gyfrifol am ei gynnal.
adran 38(5) Cyflenwi nwyddau, deunyddiau neu gyfleusterau eraill a ragnodir i bersonau sy'n darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol, gwasanaethau deintyddol sylfaenol, gwasanaethau offthalmig cyffredinol neu wasanaethau fferyllol.
adran 38(6) Sicrhau bod unrhyw wasanaethau neu gyfleusterau eraill ar gael i awdurdodau lleol ynghyd â gwasanaethau personau a gyflogir a ddarperir fel rhan o'r gwasanaeth iechyd a gwasanaethau unrhyw ymarferydd meddygol neu ddeintyddol neu nyrs a gyflogir am resymau ac eithrio i ddarparu gwasanaethau sy'n rhan o'r gwasanaeth iechyd er mwyn galluogi awdurdodau lleol i gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas â gwasanaethau cymdeithasol, addysg ac iechyd cyhoeddus.
adran 38(7) Sicrhau bod gwasanaethau ymarferwyr ar gael i awdurdodau lleol er mwyn galluogi'r cyfryw awdurdodau i gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas â gwasanaethau cymdeithasol, addysg ac iechyd cyhoeddus.
adran 39(1) a (2) Darparu ar gyfer ymgynghori cyn sicrhau bod gwasanaethau unrhyw swyddog ar gael i awdurdod lleol.
adran 39(4) a (5) Cytuno telerau gwasanaethau a chyfleusterau a ddarperir o dan adran 38 o'r Ddeddf a'r ffioedd amdanynt.
adran 39(6) Pŵer pan gyflenwir nwyddau neu ddeunyddiau i'w prynu a'u storio a threfnu ar gyfer cyflenwi nwyddau neu ddeunyddiau gan drydydd partïon.
adran 41(1) — (4) Darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol.
adran 42 Gwneud contractau y darperir gwasanaethau meddygol sylfaenol oddi tanynt.
adran 44 Gwneud contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol gyda phersonau cymwys.
adran 50(1)—(5) sylfaenol. Trefnu ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol
adran 51(1) Gwneud trefniadau gyda phersonau cymwys o dan adran 50.
adran 53 Darparu cymorth a chefnogaeth mewn perthynas â gwasanaethau meddygol sylfaenol.
adran 54(1) a (9) Cydnabod Pwyllgorau Meddygol Lleol a dyrannu symiau o arian i Bwyllgorau.
adran 55 Sicrhau bod llety ar gael i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â gwasanaethau meddygol sylfaenol.
adran 56(1)—(4) Darparu gwasanaethau deintyddol sylfaenol.
adran 57 Gwneud contractau gwasanaethau deintyddol cyffredinol.
adran 59 Gwneud contractau gwasanaethau deintyddol cyffredinol gyda phersonau cymwys.
adran 64(1)—(5) Trefnu ar gyfer darparu gwasanaethau deintyddol sylfaenol.
adran 65(1) Gwneud trefniadau gyda phersonau cymwys o dan adran 64.
adran 67(1) a (3) Swyddogaethau mewn perthynas ag iechyd cyhoeddus deintyddol.
adran 68(1) a (2) Darparu cymorth a chefnogaeth i unrhyw berson sy'n darparu gwasanaethau deintyddol sylfaenol.
adran 69(1) a (9) Cydnabod Pwyllgorau Deintyddol Lleol a dyrannu symiau o arian i Bwyllgorau.
adran 70 Sicrhau bod llety ar gael i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â gwasanaethau deintyddol sylfaenol.
adran 71(1) Trefnu gwasanaethau offthalmig cyffredinol.
adran 75 Pan awdurdodir hynny, gwneud trefniadau eraill mewn perthynas â gwasanaethau offthalmig.
adran 78(1), (7), (8) a (9) Cydnabod Pwyllgorau Optegol Lleol a dyrannu symiau o arian i Bwyllgorau.
adran 79 Sicrhau bod llety ar gael i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol.
adran 80 (1), (3) a (6) Trefnu ar gyfer gwasanaethau fferyllol.
adran 82 Darparu a chyhoeddi manylion trefniadau mewn perthynas â gwasanaethau fferyllol ychwanegol.
adran 87 Pan awdurdodir hynny, gwneud trefniadau eraill mewn perthynas â gwasanaethau fferyllol.
adran 90(1), (7), (8) a (9) Cydnabod Pwyllgorau Fferyllol Lleol a dyrannu symiau o arian i Bwyllgorau.
adran 91 Sicrhau bod llety ar gael i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau fferyllol.
adran 92 Sefydlu cynlluniau peilot.
adran 93 a pharagraffau 1,2,3,4,5 a 7 o Atodlen 6 Gwneud cynlluniau peilot.
adran 107 Datgymhwyso ymarferwyr rhag cael eu cynnwys ar restr offthalmig neu fferyllol.
adran 108 Dileu ymarferwyr yn amodol.
adran 110(1), (3), (4), (5), (6) ac (8) Atal ymarferwyr dros dro.
adran 111 Atal ymarferwyr dros dro hyd oni chynhelir apêl.
adran 113(1) a (3) Adolygu penderfyniadau.
adran 114(5) a (6) Gwneud cais am amrywio ymarferwyr ar restri, am eu gorfodi ar restri ac am eu dileu'n amodol oddi ar restri.
adran 115(4),(5) a (6) Gwneud cais am ddatgymhwysiad cenedlaethol.
adran 137 Awdurdodi defnyddio llety mewn ysbytai, penderfynu i ba raddau y mae i fod ar gael a phenderfynu ac adennill ffioedd mewn cysylltiad â defnyddio llety o'r fath.
adran 138 Adennill treuliau sy'n daladwy gan gleifion a gyflogir.
adran 159 Caffael tir neu eiddo arall y mae ei angen at ddibenion y Ddeddf a defnyddio neu gynnal a chadw unrhyw eiddo yn rhinwedd y Ddeddf.
adran 163(2)(b) Bod yn gorff sy'n gyfrifol am ysbyty.
adran 166 Defnyddio unrhyw eiddo a freinir yng Ngweinidogion Cymru.
adran 183 Cynnwys y cyhoedd ac ymgynghori ynghylch cynllunio gwasanaethau a'u rhoi ar waith.
adran 197 Sicrhau bod cyfleusterau ar gael ar gyfer addysgu ac ymchwilio clinigol mewn cysylltiad â meddygaeth neu ddeintyddiaeth glinigol.
adran 198 Sicrhau bod llety neu gyfleusterau gwasanaeth iechyd ar gael at ddiben darparu gwasanaethau meddygol, deintyddol, fferyllol, offthalmig neu drin traed ar gael i gleifion preifat nad ydynt yn gleifion preswyl.
adran 200(2), (4), (6), (7), (9) a (10) Derbyn a chofrestru gwybodaeth mewn perthynas â genedigaethau a marwolaethau.