
2009 Rhif 1500 (Cy.145)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2009
Gwnaed 16 Mehefin 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 18 Mehefin 2009
Yn dod i rym 15 Gorffennaf 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 94(5A), 95(3A) ac 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac a freinir bellach ynddynt hwy, ac ar ôl ymgynghori â'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd yn unol ag Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.
Enwi, Cychwyn a Chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2009, ac maent yn dod i rym ar 15 Gorffennaf 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio'r Rheoliadau
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau, ym mhob man y mae'n digwydd—
 yn lle “awdurdod lleol” gosoder “awdurdod addysg lleol”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
16 Mehefin 2009