
2009 Rhif 1382 (Cy.138)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) (Diwygio) 2009
Gwnaed 8 Mehefin 2009
Yn dod i rym 9 Mehefin 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 21 a 203(10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 1 o Atodlen 4 2006 iddi a chyda chydsyniad y Trysorlys yn unol â pharagraff 1(7) o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a Chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) (Diwygio) 2009 a daw i rym ar 9 Mehefin 2009.
Diwygio Cyfalaf Cychwynnol Ymddiriedolaethau GIG
2 

(1) Mae Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2009 wedi ei diwygio fel a ganlyn;
(2) Yn lle'r Atodlen i Orchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2009, rhodder yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
8 Mehefin 2009
ATODLEN
Erthygl 2

“ATODLEN
Erthygl 2


Ymddiriedolaeth GIG Cyfalaf Cychwynnol
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg £484,807,000
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf £277,694,000
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda £205,722,000
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru £306,609,000