
2009 Rhif 1373 (Cy.136)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) (Diwygio) 2009
Gwnaed 8 Mehefin 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Mehefin 2009
Yn dod i rym 30 Mehefin 2009

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
RHAN 1 Cyflwyniad
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) (Diwygio) 2009; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 30 Mehefin 2009.
Diwygio
2 
Diwygir Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) 2008 fel a nodir yn y Rheoliadau hyn.
3 
Yn rheoliad 2 (Dehongli cyffredinol)—
(a) mewnosoder, yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor—“
 ystyr “y farchnad ddomestig” (“domestic market”) yw'r farchnad ar gyfer gwerthu cig dofednod yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon;”;
(b) hepgorer y diffiniad o “dyddiad perthnasol”;
(c) yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor mewnosoder—“
 ystyr “cig moch seropositif” (“seropositive pig meat”) yw cig sy'n dod o fochyn seropositif—
(a) nad yw'n gig dan gyfyngiadau, a
(b) na chafodd ei drin yn unol ag Atodlen 2 mewn canolfan driniaeth ddynodedig;”; ac“
 ystyr “mochyn seropositif” (“seropositive pig”) yw mochyn nad yw'n anifail dan gyfyngiadau ond yn un y mae Gweinidogion Cymru'n ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei gigydda mewn lladd-dy oherwydd bod gwrthgorffynnau yn erbyn feirws clefyd pothellog y moch wedi cael eu canfod yn y mochyn hwnnw;”.
4 
Yn rheoliad 3 (Anifail, dofednod a chig dan gyfyngiadau: diffiniadau)—
(a) yn lle paragraff (8) rhodder—“
(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9) “cig dan gyfyngiadau” (“restricted meat”) yw cig—
(a) a gynhyrchwyd ar neu ar ôl y dyddiad y datganwyd y parth gwarchod neu'r parth gwyliadwriaeth, neu ddyddiad cynharach os bydd Gweinidogion Cymru yn pennu'r dyddiad hwnnw at ddibenion rheoli clefydau;
(b) sy'n dod o anifail dan gyfyngiadau neu ddofednod dan gyfyngiadau o ardal heintiedig, parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth; ac
(c) sy'n cynnwys cig a ddaeth i gyffyrddiad â'r cyfryw gig.”;
(b) ar ôl paragraff (8) mewnosoder—“
(9) Os yw cig dan gyfyngiadau wedi cael ei drin yn unol ag Atodlen 2 mewn canolfan driniaeth mae'n peidio â chael ei ganfod fel cig dan gyfyngiadau.”.
5 
Yn rheoliad 7 (Cig o fangre dan amheuaeth neu fangre heintiedig) mewnosoder ar ôl paragraff (3)—“
(4) Yn y rheoliad hwn ystyr “y dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y daeth y fangre dan amheuaeth neu'r fangre heintiedig yn destun cyfyngiadau oherwydd clefyd, neu unrhyw ddyddiad cynharach os bydd Gweinidogion Cymru yn pennu'r dyddiad hwnnw at ddibenion rheoli clefydau.”.
6 
Yn rheoliad 9 (Gwahardd cyflenwi ac allforio cig)—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) hepgorer y gair “neu” sy'n dod yn union o flaen is-baragraff (b);
(ii) ar ddiwedd is-baragraff (b), hepgorer yr atalnod llawn ac ychwaneger—“
 ; neu
(c) allforio cig moch seropositif.”;
(b) yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Nid yw'r gwaharddiad ym mharagraff 1(a) yn gymwys i gig dan gyfyngiadau o ddofednod dan gyfyngiadau a fwriedir ar gyfer ei gyflenwi i'r farchnad ddomestig.”;
(c) hepgorer paragraff (3).
7 
Yn rheoliad 10 (Lladd-dai)—
(a) ym mharagraff (1) ar ôl y geiriau “anifeiliaid dan gyfyngiadau” mewnosoder “, moch seropositif”;
(b) ym mharagraff (2) ar ôl is-baragraff (ch) hepgorer yr atalnod llawn a mewnosoder—“
 ;
(d) bod moch seropositif yn cael eu cadw ar wahân i foch eraill; a
(dd) bod moch seropositif yn cael eu cigydda ar wahân i foch eraill.”;
(c) ar ôl paragraff (5) mewnosoder—“
(6) Os nad yw meddiannydd lladd-dy wedi cydymffurfio â gofynion paragraff (2)(d) neu (2)(dd) pan gaiff hysbysiad gan arolygydd milfeddygol, rhaid i'r meddiannydd drin y moch eraill hynny fel moch seropositif.
(7) Dim ond os yw'r lladd-dy yn un dynodedig y caiff meddiannydd lladd-dy dderbyn cig dan gyfyngiadau.”.
8 
Yn rheoliad 12 (Derbyn a meddu ar gig dan gyfyngiadau)—
(a) ym mharagraff (1) hepgorer y cyfeiriad at y geiriau “neu sefydliad” a'r geiriau “neu'r sefydliad hwnnw”;
(b) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os yw'r cig cyfyngedig yn dod o ddofednod cyfyngedig a fwriedir ar gyfer ei gyflenwi i'r farchnad ddomestig yn unig.”.
9 
Yn rheoliad 13 (Marcio cig) ym mharagraffau (1), (2) a (3) ar ôl y geiriau “dan gyfyngiadau” ym mhob un o'r paragraffau hynny mewnosoder “neu gig moch seropositif”.
10 
Yn lle rheoliad 14 (Symud cig dan gyfyngiadau) rhodder—“
14 

(1) Ni chaiff neb gludo na threfnu i gludo cig dan gyfyngiadau i fangre neu sefydliad oni bai bod y fangre honno neu'r sefydliad hwnnw'n ddynodedig.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os yw'r cig cyfyngedig yn dod o ddofednod cyfyngedig a fwriedir ar gyfer ei gyflenwi i'r farchnad ddomestig yn unig.”.
11 
Yn rheoliad 15 (Cadw cofnodion)—
(a) ym mharagraff (1) ar ôl y geiriau “anifail dan gyfyngiadau” mewnosoder “, mochyn seropositif”;
(b) yn lle paragraff (1)(a) rhodder—“
(a) y nifer a'r math o anifeiliaid dan gyfyngiadau, moch seropositif neu ddofednod dan gyfyngiadau sydd wedi eu cigydda;”;
(c) ym mharagraff (2) ar ôl “chig dan gyfyngiadau” mewnosoder “neu gig moch seropositif”;
(ch) yn is-baragraffau (a) ac (c) o baragraff (2) yn lle'r geiriau “o gig dan gyfyngiadau” rhodder “o'r cyfryw gig”;
(d) yn lle is-baragraff (d) o baragraff (2) rhodder—“
(d) pa faint o'r cyfryw gig nas bwriedir bellach ei fwyta gan bobl.”;
(dd) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Nid yw paragraff (2) yn gymwys i unrhyw ddosbarthwr cyfanwerthu, dosbarthwr manwerthu, manwerthwr neu ddefnyddiwr—
(a) os yw'r cig dan gyfyngiadau yn dod o ddofednod dan gyfyngiadau ac a fwriedir yn unig ar gyfer ei gyflenwi i'r farchnad ddomestig; neu
(b) os yw'r cig yn gig moch seropositif.”.
12 
Yn Atodlen 3 (Marc adnabod arbennig) mewnosoder ar ôl paragraff 3—“
3A 
Rhaid i gig moch seropositif gynnwys marc adnabod fel bod y Rhif o a'r llythrennau yn cael eu gosod mewn cylch sy'n ddarllenadwy, a'u bod yn annileadwy gyda llythrennau deongladwy ac yn cynnwys y priflythrennau “UK” a ddilynir gan rif cymeradwyo'r sefydliad.”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
8 Mehefin 2009