
2009 Rhif 1354 (Cy.130)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2009
Gwnaed 2 Mehefin 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 4 Mehefin 2009
Yn dod i rym 12 Hydref 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 6, 14(3) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a pharagraff 1(1) a (4) o Atodlen 2 iddi ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 12 Hydref 2009.
Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001
2 
Caiff Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001 eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn lle rheoliad 9(1)(b) rhodder y canlynol—“
(b) bod y Bwrdd Gwahardd Annibynnol, a sefydlwyd o dan adran 1 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, wedi cynnwys athro cofrestredig neu athrawes gofrestredig, neu'n ystyried p'un ai i'w gynnwys neu i'w chynnwys, yn y naill restr neu'r llall o bersonau wedi eu gwahardd a gedwir o dan adran 2 o'r Ddeddf honno.”;
(b) mewnosoder ar ôl rheoliad 18 —“
18A 
Pan ofynnir i'r Cyngor wneud hynny, rhaid iddo hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol a yw gorchymyn gwahardd wedi ei wneud mewn perthynas â pherson penodol ar sail ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu am fod y person wedi ei gollfarnu (ar unrhyw adeg) am dramgwydd perthnasol.”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
2 Mehefin 2009