
2009 Rhif 1306 (Cy.117)
Y GWASANAETHAU IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diddymu) (Cymru) 2009
Gwnaed 21 Mai 2009
Yn dod i rym 1 Hydref 2009
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 18 a 204(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 28(1) o Atodlen 3 iddi ac wedi cwblhau'r ymgynghoriad a ragnodir o dan baragraff 28(3) o'r Atodlen i'r Ddeddf honno yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diddymu) (Cymru) 2009 a daw i rym ar 1 Hydref 2009.
Diddymu Ymddiriedolaethau'r GIG
2 
Mae Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a restrir yng ngholofn 1 i'r Atodlen yn cael eu diddymu ac mae'r Gorchmynion cyfatebol a restrir yng ngholofn 2 i'r Atodlen yn cael eu dirymu.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
21 Mai 2009
YR ATODLEN
Erthygl 2


Ymddiriedolaeth GIG Gorchymyn Ymddiriedolaeth GIG
Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe Bro Morgannwg Gorchymyn Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe Bro Morgannwg (Sefydlu) 2008 (O.S. 2008/716 (Cy.75))
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf (Sefydlu) 2008 (O.S. 2008/717 (Cy.76))
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro Gorchymyn Sefydlu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro 1999 (O.S. 1999/3451 (Cy.49))
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Gwent Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Gwent (Sefydlu) (O.S. 1998/3321)
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda (O.S. 2008/712 (Cy.73))
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwladol Gogledd Cymru (Sefydlu) 2008 (O.S. 2008/1648 (Cy.160))
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Orllewin Cymru Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Orllewin Cymru (Sefydlu) (O.S. 1998/3314)