
2009 Rhif 1220 (Cy.104)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Swyddogaethau mewn perthynas â Chymwysterau Allanol (Cymru) 2009
Gwnaed 9 Mai 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 12 Mai 2009
Yn dod i rym 5 Mehefin 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 30(1) o Ddeddf Addysg 1997 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu) 2005 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Swyddogaethau mewn perthynas â Chymwysterau Allanol (Cymru) 2009.
(2) Mae'n gymwys o ran Cymru.
(3) Daw i rym ar 5 Mehefin 2009.
(4) Yn y Gorchymyn hwn, mae cyfeiriadau at baragraffau yn gyfeiriadau at baragraffau o adran 30(1) o Ddeddf Addysg 1997.
Swyddogaethau sydd i'w harfer gan Weinidogion Cymru yn unig
2 

(1) Mae'r swyddogaethau a osodir ym mharagraffau (a) i (c), (d) ac (ea) i'r graddau y maent yn ymwneud â chymwysterau galwedigaethol cenedlaethol i'w harfer gan Weinidogion Cymru yn unig.
(2) Mae'r swyddogaethau a osodir ym mharagraffau (e) ac (f) i'r graddau y maent yn ymwneud â chymwysterau galwedigaethol cenedlaethol i'w harfer gan Weinidogion Cymru yn unig.
John Griffiths
Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
9 Mai 2009