
2009 Rhif 1218 (Cy.103)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol (Ysgolion Annibynnol) (Cymru) 2009
Gwnaed 8 Mai 2009
Yn dod i rym 1 Mehefin 2009

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 69(3) a (4) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, fel y'u cymhwysir mewn perthynas ag ysgolion annibynnol gan adran 124B(1) o'r Ddeddf honno, ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy.

Wrth wneud y Gorchymyn hwn mae Gweinidogion Cymru wedi dilyn y weithdrefn a bennwyd yn Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cymeriad Crefyddol Ysgolion) (Gweithdrefn Ddynodi) (Cymru) 2003.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol (Ysgolion Annibynnol) (Cymru) 2009, a daw i rym ar 1 Mehefin 2009.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y grefydd berthnasol neu'r enwad crefyddol perthnasol” (“the relevant religion or religious denomination”) yw'r grefydd neu'r enwad crefyddol y caiff addysg yn yr ysgol ei darparu neu'r ysgol ei rheoli yn unol â'i daliadau neu â'i ddaliadau (neu, yn ôl y digwydd, pob enwad crefyddol o'r fath).
Dynodi ysgolion
3 

(1) Dynodir yr Ysgolion a restrir yng ngholofn (1) yn yr Atodlen yn ysgolion sydd â chymeriad crefyddol.
(2) Mewn perthynas ag ysgol a restrir yng ngholofn (1) yn yr Atodlen, pennir yng ngholofn (2) y grefydd berthnasol neu'r enwad crefyddol perthnasol i'r ysgol honno.
Jane E. Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
8 Mai 2009
YR ATODLEN
Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol
Erthygl 3


(1) (2)
Enw a Chod Post yr Ysgol Y Grefydd Berthnasol neu'r Enwad Crefyddol Perthnasol
Bangor 
Ysgol Hillgrove, LL57 2TW Cristnogaeth
St Gerards, LL57 2EL Cristnogaeth
Aberhonddu 
Coleg Crist, LD3 8AF Cristnogaeth
Caerffili 
Ysgol Wycliff, CF83 8PU Cristnogaeth
Caerdydd 
Coleg St John's, CF3 5YX Catholigiaeth Rufeinig
Ysgol y Gadeirlan, CF5 2YH Cristnogaeth
Aberteifi 
Ysgol Gristnogol Aberteifi, SA43 1HU Cristnogaeth
Cross Keys 
Ysgol Gristnogol Emmanuel, NP11 5AJ Cristnogaeth
Bae Colwyn 
Ysgol Rydal Penrhos, LL29 7BT Cristnogaeth
Llandudno 
Coleg Dewi Sant, LL30 1RD Cydenwadaeth
Trefynwy 
Ysgol Agincourt, NP25 3SY Cristnogaeth
Ysgol Trefynwy i Fechgyn, NP25 3XP Cristnogaeth
Ysgol Trefynwy i Ferched, NP25 5XT Cristnogaeth
Porth-cawl 
Ysgol Gwfaint St Clare's, CF36 5NR Catholigiaeth Rufeinig
Powys 
Ysgol Ridgeway, SY16 4EW Cristnogaeth
Abertawe 
Ymddiriedolaeth Addysg Keystone, SA5 4DH Cristnogaeth